Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cob Cymreig"

Ychwanegwyd 877 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
cais i ehangu
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB)
(cais i ehangu)
Y cob yw'r mwyaf o bedair adran y Merlyn Cymreig; rhaid iddo fod yn dalach na 13.2 llaw, ac fel arfer maent yn mesur rhwn 14 ac 15 llaw. Maent yn boblogaidd fel ceffylau i'w marchogaeth neu i dynnu troliau ysgafn. Dywed Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru; 2008) ''Disgrifir y cob Cymreig yn aml fel 'yr anifail marchogaeth a gyrru gorau yn y byd', ac mae'n enwog am ei ddewrder , ei natur hydrin ei ystwythder a'i dygnwch.'' Nid oes ffynhonnell i'r dyfyniad, fodd bynnag.
 
Roedd pedigrî ceffyl mor bwysig yn yr [[Oesoedd Canol]] ag y mae heddiw. Canodd [[Guto'r Glyn]] (c.1435 – c.1493) [[cywydd|gywydd]] i ofyn march gan Faredudd ab Ifan o Gedewain dros Reinallt ap Rhys Gruffudd:
 
:Mab i’r Du ym mhob erw deg
:O Brydyn, o bai redeg;
:Merch ei fam i’r march o Fôn
:Aeth i ddwyn wyth o ddynion;
:Mae wyrion i Ddu’r Moroedd,
:Gwn mai un onaddun oedd.
:Mae yngo nai Myngwyn Iâl
:Ym Mhowys, nis rhwym hual.
:Mae câr i farch Ffwg Gwarin,
:A’i gâr a fâl gwair â’i fin.
:Ucha’ march ei iachau ’m Môn,
:O baladr Talebolion.
:Dewis lwdn, nid oes ledach,
:A’i draed yw ei bedair iach.<ref>[http://www.gutorglyn.net/gutorglyn/poem/?poem-selection=039 gutorglyn.net;] [[Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd]]; adalwyd 7 Ionawr 2017.</ref>
 
Defnyddia Guto sawl enw am y cob, gan gynnwys [m]arch, ebol, gorwydd, eddestr a [p]lanc.
 
==Gweler heyfd==
4,948

golygiad