Alger: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Hanes: canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g, 10fed ganrif10g, 7fed ganrif7g using AWB
Llinell 3:
 
== Hanes ==
Cafodd Alger ei sefydlu gan y [[Ffeniciaid]] dros 2600 mlynedd yn ôl ond erbyn i'r [[Arabiaid]] gyrraedd yn y [[7fed ganrif7g]] roedd yn bentref bach dibwys. Cafodd ei datblygu gan yr Arabiaid o'r [[10fed ganrif10g]] ymlaen a thyfodd yn gyflym i fod yn ddinas fawr a llewyrchus. Yn y [[16eg ganrif16g]] fe'i meddianwyd gan y [[Ymerodraeth yr Otomaniaid|Tyrciaid Otomanaidd]] ac fe'i defnyddid fel gwersyll ar gyfer [[môr-ladron]] [[Berberiaid|Barbari]], e.e. [[Khair-ed-din Barbarossa]], a gipiodd y ddinas yn [[1539]].
 
Cipiodd [[Ffrainc]] y ddinas oddi ar Dwrci yn [[1830]] a'i gwneud yn brifddinas ei thalaith newydd, Algeria. Sefydlwyd Prifysgol Alger yn [[1879]]. Yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]] Alger oedd pencadlys lluoedd y Cynghreiriaid yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]] ac, am gyfnod, yn bencadlys [[llywodraeth alltud Ffrainc]]. Bu'r ddinas yn dyst i ymladd ar sawl achlysur yn ystod y frwydr dros annibyniaeth i'r wlad ar Ffrainc ([[1954]]-[[1962]]).