La Goulette: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Tunisia → Tiwnisia, Tunis → Tiwnis
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g, 7fed ganrif7g using AWB
Llinell 4:
Porthladd La Goulette yw'r un prysuraf yn Nhiwnisia. Mae gwasanaeth [[llong]] fferi yn cysylltu La Goulette â [[Marseille]] yn [[Ffrainc]], [[Trapani]] yn [[Sisili]] a [[Napoli]] a [[Genoa]] ar arfordir gorllewinol [[Yr Eidal]]. Yn ogystal mae nifer o longau cargo yn defnyddio'r porthladd.
 
Datblygwyd y porth gan yr Arabiaid ar ôl iddynt gipio Tiwnis yn y [[7fed ganrif7g]]. Adeiladwyd y 'kasbah' (castell), Borj el-Karrak, ar safle caer gynharach a godwyd yn [[1535]] gan y brenin [[Siarl I o Sbaen]]. Fe'i cipiwyd gan y [[Twrci]]aid [[Ymerodraeth yr Otomaniaid|Otomanaidd]] yn [[1574]] a'i hailadeiladu'n sylweddol. Dilynodd math o Oes Aur i La Goulette. Oddi yno hwyliai nifer o longau'r ''corsairs'', [[môr-ladron]] dan nawdd y llywodraeth, i ymosod ar longau [[Cristnogaeth|Cristnogol]]. Defnyddid y kasbah fel canolfan lle cedwid y caethweision a rwyfai'r llongau (roedd yn arfer defnyddio caethweision a charcharorion yn [[Ewrop]] hefyd, e.e. gan lynges [[Fenis]]).
 
Tyfodd tref fach gaerog i'r gorllewin o'r castell. Yma ac yn yr [[Hara]] yn Nhiwnis yr ymsefydlodd nifer o'r [[Iddewon]] a ffodd o [[Livorno]] yn y [[16eg ganrif16g]]. Daeth nifer o fewnfudwyr o [[Sisili]] yn ogystal a gelwir ardal yng ngogledd y dref yn 'Sisili Fach' hyd heddiw. Erbyn heddiw does dim llawer ohonyn nhw ar ôl.
 
La Goulette yw hoff gyrchfan trigolion Tiwnis i gael tipyn o haul a gwynt yn yr haf ac mae'n enwog am ei bwytai niferus sy'n arbenigo mewn bwydydd y môr. Mae'r traeth yn llydan a braf a cheir nifer o gaffis yno. Ceir golygfeydd da dros y Gwlff ar [[Cap Bon]] a bryniau [[Bou Kornine]].