Malawi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau)
arwyddair
B →‎Hanes Malawi: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 16eg ganrif16g (2) using AWB
Llinell 65:
Cafwyd hyd i olion hominid yn dyddio'n ôl tua miliwn o flynyddoedd yn yr ardal yma, ac roedd pobl gynnar yn byw ar lannau [[Llyn Malawi]] 50,000 i 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Gelwir y trigolion cynnar yr Akufula neu'r Batwa. Hwy oedd yn gyfrifol am yr arlunwaith craig i'r de o [[Lilongwe]], yn [[Chencherere]] a Mphunzi.
 
Yn ystod y [[16eg ganrif16g]], sefydlwyd gwladwriaeth [[Maravi]] gan gangen o'r [[Bantu (pobl)|bobloedd Bantu]] o gwmpas [[Llyn Malawi]]. Dywedir fod yr enw "Malawi" yn dod o "Maravi".
Tyfodd tiriogaeth y wladwriaeth i ymestyn o ardaloedd [[Tumbuka]] a Tonga yn y gogledd i ran isaf [[afon Shire]] yn y de, ac i'r gorllewin cyn belled a dyffrynoedd [[Luangwa]] a [[afon Zambezi|Zambezi]]. Roedd rheolwyr Maravi yn perthyn i dylwyth y Phiri, ac yn dwyn y teitl [[Kalonga]]. [[Manthimba]] oedd eu prifddinas. Prif iaith y Maravi oedd [[Chichewa]].
 
Yn y [[19eg ganrif19g]], symudodd nifer o bobloedd eraill i'r ardal. Daeth pobl y [[Ngoni]], neu'r Angoni, o ardal [[KwaZulu-Natal|Natal]], yn yr hyn sy'n awr yn [[De Affrica|Dde Affrica]], yn ffoi oddi wrth Ymerodraeth y [[Zulu]], oedd yn ymestyn ei grym dan [[Shaka]] Zulu. Grŵp arall o fewnfudwyr oedd yr [[Yao]] neu Ayao, o'r hyn sy'n awr yn ogledd [[Mosambic]]. Cyn hir roedd y Maravi yn dioddef oherwydd ymosodiadau eu cymdogion, y Ngoni a'r Yao, ac yn aml yn cael eu gwerthu fel caethweision. Roedd yr Yao wedi troi at [[Islam]], ac wedi datblygu partneriaeth a marsiandïwyr caethion [[Arab]]aidd.
 
Roedd y Portiwgeaid wedi ymsefydlu ar yr arfordir ers yr [[16eg ganrif16g]], ond ymddengys mai'r Ewropead cyntaf i gyrraedd Llyn Malawi oedd [[David Livingstone]] yn 1859. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, sefydlodd cenhadon Albanaidd yn y wlad. Yn 1891, daeth y diriogaeth yn than o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]], ac yn 1907 rhoddwyd yr enw ''Nyasaland'' arni.
 
Yn ystod y 1950au, bu nifer o ymgyrchoedd i geisio ennill annibyniaeth. Un o'r arweinwyr oedd Dr [[Hastings Kamuzu Banda]], a ddaeth yn Brif Weinidog pan ddaeth Malawi yn wlad annibynnol yn [[1964]], ac yn Arlywydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Dim ond un blaid a ganiateid, ac yn 1970, cyhoeddwyd Banda yn Arlywydd am Oes.