Mandan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
del gwell
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
Llinell 6:
Yn wahanol i lwythau eraill yr ardaloedd hyn, roedd y Mandan yn byw mewn pentrefi parhaol, yn hytrach na symud i ddilyn y byffalo. Heblaw hela, roeddynt hefyd yn amaethu.
 
Daethant i gysylltiad ag Ewropeaid yn 1738, ac ymwelwyd a hwy gan nifer o fasnachwyr dros y ganrif nesaf. Erbyn dechrau'r [[19eg ganrif19g]] roedd heintiau ac ymosodiadau gan lwythau eraill wedi gostwng eu nifer yn sylweddol. Wedi haint o'r [[Frech Wen]] yn 1837, roedd eu nifer cyn ised a 125. Oherwydd hyn, ymunasant a llwythau cyfagos yr [[Arikara]] a'r [[Hidatsa]].
 
Dros y degawdau nesaf, lleihaodd tiroedd y llwythau dan bwysau o'r llywodraeth. Sefydlwyd tiriogaeth iddynt yn Fort Berthold, yn wreiddiol o tua 8 miliwn acer (32,000 km²), ond erbyn 1910, roedd ei faint wedi gostwng i tua 900,000 acer (3,600 km²). Yn 1934 unwyd y Mandan yn swyddogol a'r Hidatsa a'r Arikara. Bu farw'r Mandan gwaed-llawn olaf yn 1971; mae'r Mandan presennol o hil gymysg.