Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Fixed typo
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
B →‎Hanes Llundain: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 37:
Erbyn y [[600au]], cododd yr Eingl-sacsonaidd adeiladau newydd a galw'r dref yn Lundenwic a oedd tua 1000 troedfedd i fyny’r afon o’r hen ddinas Rufeinig; bellach a elwir yn [[Covent Garden]]. Mae'n debygol y byddai harbwr wedi bod ar aber yr afon Fleet bryd hynny ar gyfer pysgota a masnachu. Tyfodd y masnachu hyd oni chafodd yr ardal ei goresgyn gan [[Y Llychlynwyr]]. Bu'n rhaid i’r ddinas ailsefydlu ei hun yn yr hen safle, sef safle Llundain Rufeinig lle'r oedd yna furiau i'w hamddiffyn. Parhaodd yr ymosodiadau gan y Llychlynwyr yn ne-ddwyrain Lloegr tan 886 pan ail-gipiodd [[Alfred Fawr]] y ddinas a chreu heddwch efo’r arweinydd Daneg, Guthrum. Daeth y ddinas Sacsonaidd, wreiddiol sef ‘’Lundenwic’’ yn ‘’Ealdwic’’ (Hen Ddinas), enw a oroesodd tan heddiw fel ‘’Aldwych’’ sydd yn [[San Steffan|Ninas San Steffan]].
 
[[Delwedd:London 1300 Historical Atlas William R Shepherd (died 1934).PNG|200px|dde|thumbbawd|Map o Lundain yn 1300]]
 
Mewn dial, ymosododd byddin y Saeson gan ddymchwel ‘’London Bridge’’. Roedd y Saeson yn ôl, ac yn rheoli mewn safle pwerus. Daeth [[Canute Fawr]] i rym yn 1016, arweiniodd y ddinas tan ei farwolaeth yn 1035. Pan fu farw, dychwelodd arweiniad y dalaith i'r Sacsoniaid. Erbyn hyn, roedd Llundain yn un o ddinasoedd mwyaf (a mwyaf ffyniannus) [[Lloegr]] er bod pencadlys y llywodraeth yn [[Winchester]]. Yn dilyn buddugoliaeth [[Brwydr Hastings]] yn 1066, coronwyd [[Wiliam I, brenin Lloegr|Gwilym y Gorchfygwr]] ac yna [[Dug Normandi]] fel Brenin Lloegr mewn abaty newydd yn San Steffan ar ddydd Nadolig 1066. Rhoddodd [[Wiliam I, brenin Lloegr|Gwilym (William)]] freintiau i’r dinasyddion, ac ar yr un pryd adeiladwyd [[Tŵr Llundain]] i gadw trefn ar ei dinasyddion.
Llinell 43:
Dechreuwyd adeiladu [[Palas San Steffan]] yn 1097 yn agos i’r abaty o’r un enw. Mae [[San Steffan]] wedi bod yn ardal lywodraethol o’r cyfnod hwnnw hyd heddiw. Tyfodd Llundain mewn cyfoeth a phoblogaeth yn ystod yr [[Oesoedd Canol]]. Yn 1100 roedd poblogaeth Llundain tua 18,000; erbyn 1300 tyfodd i bron 100,000. Gwaharddodd [[Edward I, brenin Lloegr|Brenin Edward]] Iddewon o'r ddinas a lleihaodd y boblogaeth.
 
[[Delwedd:Great Fire London.jpg|dde|thumbbawd|200px|[[Tân Mawr Llundain]]]]
 
Daeth trychineb y [[Pla du]] yn y 14eg ganrif. Collodd Llundain traean o’i phoblogaeth. Roedd yn weddol dawel yn ystod y canol oesoedd, oni bai am rhai rhyfeloedd cartref megis [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]]. Ar ôl trechu'r [[Armada Sbaeneg]] yn 1588, cafwyd sefydlogrwydd llywodraethol a gwelwyd twf yn y ddinas. Yn 1603 daeth [[Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI)]] yn frenin Lloegr. Roedd ei ddeddfau gwrth-[[Catholigiaeth|Gatholig]] yn amhoblogaidd iawn, ac felly cafwyd ymgais i'w lofruddio; adnabyddir hyn fel [[Cynllwyn y Powdr Gwn]] (‘’gunpowder plot’’) ar y 5ed o Dachwedd 1605.