Hessen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
hepgor nodyn Egin
B →‎Hanes: canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g, 12fed ganrif12g, 9fed ganrif9g, 5ed ganrif CC5 CC using AWB
Llinell 20:
 
==Hanes==
Roedd presenoldeb [[Y Celtiaid|Celtaidd]] cynnar yn yr ardal a elwir heddiw'n Hessen. Mae tystiolaeth o hyn ar ffurff claddiadau o arddull [[La Tène]] sy'n dyddio o ganol y [[5ed ganrif5 CC]] a ddarganfuwyd yn [[Glauberg]]. Anheddwyd y rhanbarth yn ddiweddarach gan lwyth [[Germaniaid|Germanaidd]] yn [[Chatti]] tua'r [[ganrif 1af CC]], ac mae'r enw Hessen yn barhad o enw'r llwyth. Yn y Canol Oesoedd cynnar, roedd ''[[gau]]'' Ffrancaidd yn cynnwys ardal o amgylch [[Fritzlar]] a [[Cassel]] ac un Sacsonaidd arall i'r gogledd a adnabuwyd fel Hessengau. Yn ystod y [[9fed ganrif9g]] daeth Hessengau Sacsonaidd hefyd o dan reolaeth y Franconiaid, cyn cael ei drosglwyddo i [[Thüringen]] yn y [[12fed ganrif12g]].
 
Enillodd Hessen ei hannibyniaeth yn [[Rhyfel Olyniaeth Thuringiaid]] ([[1247]]–[[1264]]), a daeth yn Landgrafiaeth o fewn [[Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig]]. Cododd yn fuan i bwysigrwydd sylfaenol o dan Landgraf [[Philip I, Landgraf Hessen|Philip y Fawrfrydig]], a oedd yn un o'r arweinwyr Almaeneg Protestannaidd. Ar ôl marwolaeth Philip ym [[1567]], rhannwyd y diriogaeth ymhlith ei bedwar mab o'i briodas gyntaf (roedd Philip yn [[bigamydd|figamydd]]) mewn llinellau: [[Hessen-Cassel]], [[Hessen-Darmstadt]], [[Hessen-Rheinfels]] a [[Hessen-Marbwrg]]. Bu farw'r ddwy linell ganlynol allan yn weddol fuan ([[1583]] ac [[1605]]), Hessen-Cassel a Hessen-Darmstadt oedd y ddwy diriogaeth graidd yn y tiroedd Hessiaidd. Rhannwyd llinellau cyfochrog sawl gwaith dros y canrifoedd, fel ym [[1622]], pan rannwyd Hessen-Hombwrg i ffwrdd o Hessen-Darmstadt. Mabwysiadodd Cassel [[Calfiniaeth|Galfiniaeth]] yn yr [[16eg ganrif16g]], tra arhosodd Darmstadt gyda Lutheriaeth ac o ganlyniad, bu gwrthdaro rhwng y ddwy linell, yn arbennig yn yr anghydfod dros Hessen-Marbwrg ac yn y [[Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain]], pan ymladdodd Darmstadt ar ochr yr Ymerawdwr, tra ochrodd Cassel gyda [[Sweden]] a [[Ffrainc]].
 
Cyflogwyd nifer o [[hurfilwr|hurfilwyr]] o Hesse gan [[Prydain Fawr|Brydain]] yn ystod y [[Chwyldro Americanaidd]], i ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr yn America.