Park Güell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B clean up, replaced: Categori:Adeiladau Gaudí → Categori:Adeiladau Antoni Gaudí using AWB
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g using AWB
Llinell 93:
Parc cyhoeddus o erddi ac elfennau pensaerniol ydy '''Park Güell''' (Catalan: ''Parc Güell'') a leolwyd ar Allt Carmelo yn [[Barcelona]], [[Catalwnia]]. Mae Allt neu Fryn Carmelo yn un o deulu o fryniau'r [[Sierra de Collserola]] sef y ''Parc del Carmel'' ac mae ar lethr bychan, yn wynebu'r gogledd ym maestref Gràcia, Barcelona. Gyda'r angen i drefoli'r ddinas, gofynnodd [[Eusebi Güell]] i [[Antoni Gaudí]], i gynllunio'r parc ar ffurf ardaloedd preswyl Lloegr, a dyna pam y defnyddiwyd y sillafiad Saesneg "Park" yn hytrach na'r Catalan ("Parc"). Fe'i crewyd rhwng 1900 a 1914 ac fe'i agorwyd i'r cyhoedd yn 1926. Yn 1984 fe'i dynodwyd yn [[Safle Treftadaeth y Byd]] gan [[UNESCO]] dan y teitl "Gweithiau Antoni Gaudí". Yr arddull a ddefnyddiodd yma (ac yn nhrwch gweddil gweithiau Gaudí) yw ''[[:w:ca:Modernisme català|Modernisme Catalwnia]]''.<ref>[http://museuhistoria.bcn.cat/ca/node/17 Gwefan MUHBA;] adalwyd 3 Hydref 2014</ref>
 
Mae Park Güell yn perthyn i 'gyfnod naturiol' Gaudí, sef degawd cyntaf yr [[20fed ganrif20g]]. Yn ystod y cyfnod hwn, perffeithiodd y pensaer ei arddull unigryw drwy sylwi ac astudio pethau organig byd natur a'u gweithredu o fewn strwythurau peirianeg ac adeiladwaith. Daeth Gaudí a chwa o awyr iach, rhyddid a meddwl newydd, fel artist wrth ei waith, i fyd llawn llinellau syth a diflas yr adeiladydd; daeth hiwmor lle bu confensiwn a rhyddid byw lle bu caethiwed y traddodiad clasurol. Gyda Pharc Güell, am y tro cyntaf, trodd ei syniadau a'i freuddwydion yn strwythurau ymarferol, real ac organig. Yr arddull newydd hwn a aeddfedodd yn ddiweddarach i greu un o bencampweithiau mwya'r byd: y [[Sagrada Família]].
[[Delwedd:BCN-ParcGuell-4898.jpg|bawd|320px|chwith|Canol Park Güell]]
{{clirio}}
Llinell 128:
 
Bu farw Eusebi Güell yn ei dŷ yn 1918, ac fe'i gwerthwyd i Gyngor y Ddinas gan ei ddisgynyddion ar 26 Mai 1922. Yn 1926 agorodd fel parc cyhoeddus.
[[Delwedd:Guell-3.jpg|thumbbawd|centre|1000px|Panoràmica de l'entrada del Park Güell.]]
 
==Y parc heddiw==