Symffoni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g, 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g using AWB
Llinell 1:
Darn [[cerddoriaeth glasurol]] Gorllewinol, mewn pedwar symudiad neu ran fel rheol, yw '''symffoni'''. Datblygodd y symffoni [[clasur|glasurol]] o ganol y [[18fed ganrif18g]] ymlaen yn nwylo [[cyfansoddwr|cyfansoddwyr]] fel [[Joseph Haydn]] a [[Mozart]]. Roedd y symudiad cyntaf yn gyflym ac ar ffurf [[sonata]], yr ail yn araf a mynegol, y trydydd yn ''[[minuet]]'' a ''[[trio]]'', a'r pedwerydd yn gyflym.
 
Ymestynodd [[Beethoven]] ystod emosiynol a thechnegol y symffoni gan ychwanegu [[corws]] a chantorion unigol yn ei Nawfed Symffoni. Gyda'r [[Rhamantiaeth|Mudiad Rhamantaidd]] yn y [[19eg ganrif19g]] a chyfansoddwyr fel [[Schubert]], [[Schumann]], [[Johannes Brahms]], [[Mendelssohn]], [[Dvořák]] a [[Tchaikovsky]], tyfodd y symffoni i fod yn un o ffurfiau blaenaf a mwyaf poblogaidd y traddodiad Clasurol.
 
Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r [[20fed ganrif|ugeinfed]], daeth cyfansoddwyr fel [[Anton Bruckner]] a [[Gustav Mahler]] â datblygiadau newydd ym maint a chynnwys y symffoni. Arbrofai Mahler yn arbennig gyda symffonïau marweddog, thematig, i'w perfformio gan [[cerddorfa|gerddorfeydd]] mawr; mil o leisiau yn achos ei 8fed Symffoni, er enghraifft.
Llinell 7:
Ond gyda chyfansoddwyr fel [[Sibelius]] troes y symffoni'n fwy cryno, mwy pur yn ei helfennau a llai cyfyng ei strwythr: symffoni un symudiad yw 7fed Symffoni Sibelius er enghraifft.
 
Yn ail hanner yr [[20fed ganrif20g]] cafwyd amrywiaeth mawr ym myd y symffoni, o gerddoriaeth dra-[[moderniaeth|fodern]] [[Dmitri Shostakovich]] i arddulliau arbrofol, minimalaidd y to newydd.
 
{{eginyn cerddoriaeth}}