Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Lleihawyd o 13 beit ,  2 flynedd yn ôl
B
canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif14g, 13eg ganrif13g, [[File: → [[Delwedd: using [[Project:AWB|AWB]]
| awdurdod_deuenwol = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758
}}
[[FileDelwedd:Mr Lewis' bull NLW3362492.jpg|bawd|Tarw tua 1885; rhywle ym Mhowys o bosibl.]]
 
Anifail [[dof]] yw '''buwch''' (lluosog '''buchod'''). Maent yn cael eu magu am eu [[llefrith]] a'u [[cig]]. '''Tarw''' yw enw'r gwryw, a '''llo''' yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei [[ysbaddu]] yn '''fustach'''. Mae'r enw lluosog '''gwartheg''' yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil a'r term am dorf ydy 'buches o wartheg'.
==Cymru==
===Gofyn tarw ac ymadroddion eraill===
Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon [[Dyfi]], 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym [[Morgannwg]]: 'mofyn tarw'. Yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.<ref>Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur Prifysgol Cymru;] adalwyd Medi 2015</ref> Sonia [[Cyfraith Hywel|Cyfraith Hywel Dda]] ([[14eg ganrif14g]]) am ''"weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf."'' Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen [[Sir Fflint]] a chanol [[Powys]].
 
Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.<ref>Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.</ref>
 
Ar [[Ynys Môn]], ar whân i'r arfordir dwyreiniol, defnyddir: 'tryfenydd', 'tyrfenydd' neu 'derefnydd' am fuwch yn ei gwres. Cofnodir hyn gyntaf yn ''Llyfr Iorwerth'' yn y [[13eg ganrif13g]]: ''"Ny deleyr dale y teyru o hanner haf hyt Aust nac ar yt nac ar wellt, canys en er amser hunnu y byd teruenyd e guarthec prouadwy..."'' Dywedir ‘Mae’r terfenydd arni’ a defnyddir y termau hyn mewn mannau yn Arfon.
 
{{clirio}}
345,788

golygiad