Richard Davies (Mynyddog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sosban Fach |
|||
Llinell 2:
:''Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler [[Richard Davies (gwahaniaethu)]].''
Bardd poblogaidd o Gymro ([[10 Ionawr]] [[1833]] – [[14 Gorffennaf]] [[1877]]), a aned yn [[Llanbrynmair]], [[Sir Drefaldwyn]] oedd '''Richard Davies''' (enw barddol: '''Mynyddog'''). Ef yw awdur geiriau yr opera boblogaidd 'Blodwen' a chaneuon megis 'Gwnewch Bopeth yn Gymraeg', 'Pistyll y Llan' a '[[Myfanwy]]'.
==Magwraeth==
Ganwyd Mynyddog
==Bardd==
Roedd Mynyddog yn fardd hynod boblogaidd yn ei ddydd ymhlith y werin bobl, fel ei gyfoeswr [[John Ceiriog Hughes|Ceiriog]]. Dechreuodd Mynyddog farddoni yn y dull eisteddfodol oedd yn ffasiynol ar y pryd, gyda'r [[Pryddest|bryddest]] a'r [[awdl]] gorlwythedig â delweddau aruchel, ond yn fuan yn ei yrfa trodd i gyfansoddi cerddi byrrach ar y mesurau rhyddion ac ar geinciau poblogaidd Seisnig. Roedd y cerddi hyn yn gerddi i'w datgan a'u canu, ac yn ymwneud a phethau roedd pawb yn eu deall, megis bywyd natur a chylch y tymhorau, caru, difyrrwch diniwed, hiraeth a throeon bywyd beunyddiol, weithiau'n drist, weithiau'n ddoniol.
Cafodd yrfa hir ar lwyfannau'r eisteddfodau, bach a mawr, yn cyflwyno, yn adrodd ac yn datgan ei gerddi. Teithiodd bob rhan o Gymru a bu ar daith i [[America]] hefyd, gan ymweld â [[Rhaeadr Niagara]] ac [[Efrog Newydd]]. Roedd yn gyfaill i'r [[baled]]wr [[Owain Meirion]].
Cyhoeddodd dair cyfrol o gerddi yn ystod ei oes, yn [[1866]], [[1870]] a [[1877]]. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith i'r [[cylchgrawn|cylchgronau]] llenyddol Cymraeg yn ogystal. Cofir amdano hefyd am iddo weithio gyda [[Joseph Parry]] ar yr [[opera]] [[Blodwen]]. Mae ambell gerdd ganddo yn dal yn boblogaidd heddiw: megis y gerdd wladgarol ysgafn "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg", "Pistyll y Llan" a "[[Myfanwy]]"; ef hefyd a sgwennodd pennill wreiddiol "[[Sosban Fach]]"
:Pan fyddo yr aelwyd yn oeri
:A'r anwyd yn dyfod o'r gwaed;
:Pan fyddo y trwyn bron â rhewi
:A'r winrew ar fysedd y traed;
:Pan fo Catherine Anne wedi briwo
:A Dafydd y gwas ddim yn iach,
:A'r babi yn nadu a chrio
:A'r gath wedi crafu John Bach:
:Rhowch broc i'r tân
:A chanwch gân
:I gadw'r hen aelwyd yn aelwyd lân.
Bu farw'r bardd ar 14 Gorffennaf, 1877, a chafodd ei gladdu yn ei hoff lecyn, sef Llanbrynmair.
|