Sophene: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|thumb|Talaith Rufeinig ''Sophene'', yn y flwyddyn [[120]] ''Am y deyrnas o'r un enw, gweler Teyrnas Sophene.'' Yr oedd '''Sophene''' (Hitteg: Ծ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Yr oedd '''Sophene''' ([[Hitteg]]: Ծոփք - ''Tsopk'') yn dalaith o [[Teyrnas Armenia|Deyrnas Armenia]] a'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], a leolwyd yn ne-orllewin yr [[Armenia]] hanesyddol. Mae ei thiriogaeth yn gorwedd yn ne-ddwyrain [[Twrci]] heddiw.
 
Yn ôl [[Anania Shirakatsi]] yn ei lyfr ''Ashkharatsuyts'' ("Atlas y Byd," 7fed ganrif), Tsopk oedd yr ail o 15 talaith [[Armenia Superior|Armenia Fawr]] (Armenia Major neu Armenia Superior). Roedd yn cynnwys 8 canton (''gavar''): Khordzyan, Hashtyank, Paghnatun, Balahovit, Tsopk (Shahunyats), Andzit, Degiq, anda Gavreq (Goreq).
 
Ar wahanol adegau yn ei hanes bu'n rhan o deyrnas [[Urartu]] (8-7fed canrifoedd CC) a [[Teyrnas Armenia]] dan yr [[Brenhinllin Orontid|Orontiaid]], ac yn annibynnol fel [[Teyrnas Sophene]], yn rhan o ymerodraeth y [[Seleuciaid]] (tua 200 CC dan [[Antiochus III]] a'i lywodraethwr [[Zariadres]]. Rhwng 190 CC a'r 80au CC bu'n annibynnol eto cyn dod yn rhan o Armenia Fawr yn nheyrnasiad [[Tigranes Fawr]].
 
Rhoddodd [[Pompey]] Sophene i [[Tigranes]] ar ôl gorchfygu ei dad, Tigranes Fawr. Ar ôl hynny daeth yn [[Talaith Rufeinig|dalaith]] o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Y brifddinas oedd [[Amida]] ([[Diyarbakır]] heddiw, Twrci). Tua [[54]] OC, rheolwyd y dalaith gan Gaius Julius Sohaemus. Yn 530, cynhwyswyd Sophene yn nhalaith [[Ymerodraeth Fysantaidd|Fysantaidd]] Armenia.
 
== Gweler hefyd ==