Castell Rhuddlan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
[[delwedd:Rhuddlan Castle.jpg|thumb|right|300px|Castell Rhuddlan]]
 
[[Castell]] Cymreigar oeddymyl tref [[Rhuddlan]] yn [[Sir Ddinbych]] yw '''Castell Rhuddlan'''. Castell Cymreig oedd Castell Rhuddlan yn wreiddiol ond fe wnaeth y [[Normaniaid]] ei adnewyddu a'i atgyweirio a daeth i feddiant coron [[Lloegr]] ar ôl hynny.
 
Saif y castell wrth [[rhyd|ryd]] strategol ar [[Afon Clwyd]]. Mae'n bosibl mai yma neu gerllaw yr ymladdwyd Brwydr [[Morfa Rhuddlan]] yn [[795]]. Cododd y brenin grymus [[Gruffudd ap Llywelyn]] gastell yma yn [[1063]] a'i wneud yn sedd frenhinol. Ond llosgwyd y castell hwnnw gan y [[Saeson]] pan anfonodd [[Harold, brenin Lloegr]], fyddin i ogledd Cymru.
 
Yn [[1073]] codwyd [[castell mwnt a beili]] yno gan y Normaniaid ar orchymyn [[Gwilym I o Loegr|Gwilym Gwncwerwr]]. Tyfodd bwrdeistref fechan yng nghysgod y castell.
 
Yn [[1277]] codwyd castell cadarn ar y safle gan [[Edward I o Loegr]], a'i defnyddiodd fel ei brif ganolfan yn y gogledd yn ei ymosodiad ar [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] i geisio dymchwel [[Llywelyn ap Gruffudd]]. Yno yn [[1284]], ar ôl gorchfygu Llywelyn, cyhoeddodd Edward I [[Statud Rhuddlan]], a fyddai'n gweddnewid gweinyddiaeth Cymru.
 
Bu gwarchae ar y castell gan Cymry'r Gogledd dan arweiniad [[Madog ap Llywelyn]] yng ngwrthryfel Cymreig [[1294]]. Dros ganrif yn ddiweddarach ymsododd [[Owain Glyndŵr]] arno; ni chipiwyd y castell ond llosgwyd y dref gaerog o'i gwmpas.
 
{{eginyn Cymru}}
 
[[Category:Cestyll Cymru|Rhuddlan]]
[[Categori:Sir Ddinbych]]
 
 
[[en:Rhuddlan Castle]]