Edmwnd Tudur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Typo
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Chwiro tamaix oll
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 4:
Mab [[Owain Tudur]] a thad [[Harri VII, brenin Lloegr]] oedd '''Edmwnd Tudur''' neu '''Edmund Tudor''' ([[11 Mehefin]] [[1431]] – [[3 Tachwedd]] [[1456]]). Roedd Edmwnd yn fab i Owain Tudur a [[Catrin o Valois]], gweddw [[Harri V, brenin Lloegr]] a merch y brenin [[Siarl VI, brenin Ffrainc]]. Gwnaeth ei hanner brawd, [[Harri VI, brenin Lloegr]], ef yn Iarll Richmond ar 23 Tachwedd 1452 a'i frawd Siasbar yn Iarll Penfro. Yn [[1455]] priododd [[Margaret Beaufort]] pan oedd hi'n ddeuddeg oed, a ganed un mab iddi: Harri (Harri VII yn ddiweddarach), dri mis wedi marwolaeth Edmwnd.
 
Ganwyd Edmwnd Tudur ym mhlasty Much Hadham, [[Swydd Hertford]]. Yn 1436, ymneilltuodd ei fam i Abaty Bermondsey ble y bu farw yn 1437. Magwyd ef a'i frawd Jasper, felly, gan [[Katherine de la Pole]], Prif Leian Barking, a buont gyda hi tan 1442 pan danfonwyd hwy i lys [[Harri VI, brenin Lloegr]] i'w haddysgu.<ref name=autogenerated1>[http://www.flickr.com/photos/60861613@N00/3408675887/in/set-72157615784799876/ ''Edmund Tudor, Duke of Richmond, father of Henry VII, paternal grandfather of Arthur, Margaret, Henry, and Mary Tudor'' | Flickr – Condivisione di foto!<!-- Bot generated title -->]</ref> Cafodd Edmwnd aros yn y Llys<ref name=autogenerated1 /> ac ar 15 Rhagfyr 1449. Ar 30 Ionawr 1452 cafodd ei wysio i'r Llywodraeth fel [[Iarll Richmond]] ac yna fel Uwch Iarll ar 6 Mawrth. Yr un pryd gwnaed Jasper yn [[Iarll Penfro]]. Cyhoeddodd y Llywodaeth ef yn fab cyfreithlon yn 1453 a rhoddwyd iddo gryn gyfoeth gan y brenin.
 
==Marw==