Yn ofystalogystal a Siasbar roedd ganddogan Edmwnd frawd o'r un enw a'i dad: (Owain) a fu'n fynach, a chwaer o'r enw Marged a fu farw'n ifanc. Roedd y Tuduriaid yn deulu uchelwrol iawn, ond teulu a gollasant eu tiroedd oherwydd iddynt fod yn driw i Glyn Dwr yn ystod ei wrthryfel. Edrychwyd ar Owain gan y Saeson, felly, fel rebel eilradd nad oedd hawl ganddo gario arfau na dal swydd. Mae ei garwriaeth gyda Chatherine felly'n dipyn o ryfeddod i'r hanesydd.