Scipio Africanus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cadfridog Rhufeinig oedd '''Publius Cornelius Scipio (Scipio Africanus Major''' ([[Lladin]]: <small>'''P·CORNELIVS·P·F·L·N·SCIPIO·AFRICANVS'''</small> ([[236 CC|236]] - [[183 CC]]). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y cadfridog a orchfygodd [[Hannibal]] yn yr [[Ail Ryfel Pwnig]].
 
Ganed Scipio yn [[Rhufain]], yn fab hynaf [[Publius Cornelius Scipio]], praetor a [[Conswl Rhufeinig|chonswl]], a'i wraig [[Pomponia]]. Fel gŵr ieuanc, ymladdodd ym mrwydrau [[Brwydr Ticinus|Ticinus]], [[Brwydr Trebia|Trebia]] a [[Brwydr Cannae|Cannae]]. Dywedir iddo achub bywudbywyd ei dad ym mrwydr Ticinus, pan oedd yn 18 oed. Yn [[211 CC]], lladdwyd tad Scipio a'i ewythr, [[Gnaeus Cornelius Scipio Calvus]], mewn brwydr yn [[Sbaen]] yn erbyn brawd Hannibal, [[Hasdrubal Barca]]. Y flwyddyn wedyn, gyrrwyd Scipio i Sbaen fel [[proconswl]]. Llwyddodd i gipio dinas [[Carthago Nova]], pencadlys y Carthaginiaid yn Sbaen.
 
Yn [[209 CC]], enillodd Scipio [[Brwydr Baecula|frwydr Baecula]] yn erbyn Hasdrubal, ac yn [[206 CC]] gorchfygodd y Carthaginiad ym [[Brwydr Ilipa|mrwydr Ilipa]]. Yn [[205 CC]], etholwyd ef yn gonswl. Erbyn hyn, roedd Hannibal wedi ei gyfyngu i dde yr Eidal. Yn [[204 CC]] hwyliodd Scipio a'i fyddin i Ogledd Affrica, a glanio ger [[Utica]]. Gorfododd hyn Hannibal i ddychweld o'r Eidal i amddiffyn [[Carthago]]. Ym [[Brwydr Zama|mrwydr Zama]] ar [[19 Hydref]], [[202 CC]], gorchfygwyd Hannibal gan Scipio, brwydr a ddaeth a'r rhyfel i ben.