Antony Armstrong-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 19:
Bu Armstrong-Jones yn briod ddwywaith. <ref>{{cite news |url=http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/theroyalfamily/2059552/Lord-Snowdon-his-women-and-his-love-child.html|title=Lord Snowdon, his women, and his love child|date=31 Mai 2008|newspaper=[[The Daily Telegraph]] |author=Alderson, Andrew}}</ref>
 
Ei wraig gyntaf oedd y Dywysogaeth Margaret. Priododd y ddau yn [[Abaty Westminster]] ar [[6 Mai]], [[1960]] a chawsant ddau blentyn: David Armstrong-Jones, 2il Iarll Snowdon, a anwyd 3 Tachwedd 1961, a'r [[Sarah Chatto|Ledi Sarah Armstrong-Jones]], ganwyd 1 Mai 1964. Ychydig wedi'r briodas codwyd Armstrong-Jones i'r bendefigaeth gyda'r teitlau Iarll Snowdon ac Is-iarll Linley. O herwydd cysylltiadau'r iarll a'r Bontnewydd cyfeirid at y cwpl yn y Gymraeg gyda'r llysenwau ysmala Toni a Magi Bont weithiau<ref>[https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?A2=WELSH-TERMAU-CYMRAEG;c62dc75a.1510 WELSH-TERMAU-CYMRAEG 20 Hydref 2015</ref>.
 
Bu'r briodas yn un stormus gyda'r ddau bartner yn ymarfer anffyddlondeb rhywiol yn llygad y cyhoedd. Daeth y briodas i ben trwy ysgariad ym 1978 pan ddechreuodd y dywysoges berthynas gyda'r cynlluniwr gerddi Cymreig Roddy Llywellyn.