Symbolau LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Fel nifer o gymunedau a mudiadau eraill, mae aelodau'r gymuned [[lesbiaeth|lesbiaidd]], [[hoyw]], [[deurywiol]], a [[trawsryweddol|thrawsryweddol]] ([[LHDT]]) wedi mabwysiadu rhai symbolau i'w huniaethu a'u huno.
 
==Trionglau pinc a du==
Llinell 5:
[[Delwedd:Black triangle.svg|bawd|125px|Defnyddiwyd y triongl du i ddynodi lesbiaid, [[puteindra|puteiniaid]], menywod a ddefnyddiodd [[rheolaeth cenhedlu]], ac eraill mewn gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid.]]
{{gweler|Hanes hoywon yn yr Almaen Natsïaidd a'r Holocost}}
Un o'r symbolau hynaf yw'r [[triongl pinc]], sydd aâ'i wreiddiau yn y [[Bathodynnau y gwersylloedd crynhoi Natsïaidd|bathodynnau]] a orfodwyd i gyfunrywiolionbobl gyfunrywiol wisgo ar eu dillad yn y [[gwersylloedd crynhoi Natsïaidd]]. Amcangyfrifwyd i gymaint â 220 ,000 o hoywon a lesbiaid golli eu bywydau yn ogystal â'r chwe miliwn o [[Iddew]]on, [[Sipsiwn]], [[Comiwnyddion]] ac eraill a laddwyd gan y Natsïaid yn eu [[gwersylloedd difa]] yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]] fel rhan o [[Yr Ateb Terfynol|Ateb Terfynol]] [[Adolf Hitler|Hitler]]. Am y rheswm hwn, defnyddir y triongl pinc fel symbol o hunaniaeth ac i gofio'r erchyllterau a ddioddefant hoywon o dan yr erlidwyr Natsïaidd. Mabwysiadodd [[ACT-UP]] (''AIDS Coalition to Unleash Power'') y triongl pinc gwrthdro hefyd i symboleiddio'r frwydr yn erbyn [[AIDS]].
 
Gorfododd y Natsïaid i fenywod "annymunol", yn cynnwys lesbiaid, wisgo'r [[Triongl du (bathodyn)|triongl du]] gwrthdro. Mae lesbiaid heddiw wedi adfer y symbol hwn ar gyfer eu hunain fel mae dynion hoyw wedi adfer y triongl pinc.
Llinell 11:
==Lambda==
[[Delwedd:Lambda-letter-lowercase-symbol.svg|bawd|chwith|60px|Lambda lafant.]]
Yn 1970, dewisiwyddewiswyd y llythyren [[Groeg (iaith)|Roeg]] [[lambda]] (λ) i symboleiddio ymgyrch y [[Gay Activists' Alliance]] dros [[rhyddhad hoyw|ryddhad hoyw]] ac, pedair mlynedd yn ddiweddarach, gan y Gyngres Hawliau Hoyw Ryngwladol yng [[Caeredin|Nghaeredin]] i gynrychioli hawliau i hoywon a lesbiaid. O ganlyniad, daeth y lambda yn fyd-enwog fel symbol LHD. Mae'n draddodiadol i'r lambda cael ei liwio'n [[lafant (lliw)|lafant]], lliw sydd, fel [[pinc]], yn gysylltiedig â chyfunrywioldeb. Yn ffiseg mae'r lambda yn cynrychioli [[tonfedd]], sy'n gysylltiedig ag [[egni]], ac felly defnyddir i symboleiddio egni'r Mudiad Hawliau Hoyw.
 
Mae'r mudiad Americanaidd dros hawliau hoyw, [[Lambda Legal]], yn defnyddio enw'r symbol hwn.