Brwydr Garn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dechrau gosod cyfeiriadau |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 7:
=== Y Frwydr ===
Ar ddydd Calan 1136, gyda Steffan bellach ar orsedd Lloegr, daeth Hywel ap Maredudd, pennaeth â chryn ddylanwad ganddo ym Mrycheiniog, gyda nifer fawr o Gymry tua Phenrhyn Gŵyr, i ymosod ar y Normaniaid<ref>Evans (1971)</ref>. Dynion Brycheiniog, Morgannwg a gogledd Gŵyr oedd cyfansoddiad y fyddin. 'Roedd y Normaniaid wedi hen arfer delio gyda grwpiau bychain o Gymry a'u gorchfygu, ond y tro hwn bu cam-amcangyfrif ac ni ragwelwyd maint byddin y Cymry.
Aeth y ddwy fyddin ben-ben a'i gilydd am hanner dydd ar y dydd Calan hwnnw ar dir gerllaw ysbyty Garn Goch heddiw. Bu galanas a bu farw cannoedd ar y ddwy ochr, 516 o'r Normaniaid yn ôl cofnodion o'r cyfnod.
Llinell 26:
[[Delwedd:Cofeb Brwydr Garn Goch.jpg|chwith|bawd|Cofeb Brwydr Garn Goch]]
Yn 1985 sicrhawyd bod cofeb yng Ngarn Goch. Cloddiwyd carreg enfawr o chwarel yng Nghwm Gwendraeth a threfnwyd i'r fyddin diriogaethol ei chludo i'r fan. Mae oddeutu traean ohoni o dan y ddaear. Gwelir cen yn tyfu drosti erbyn hyn. Gerllaw hefyd mae'r cofnod ar lechi sydd yn nodi'r hanes. Daeth y ddwy lechen o fwrdd snwcer yng ngharchar Abertawe, eu glanhau, eu cerfio a'u cludo'n ddiogel i'r fan.
Daeth Gwynfor Evans i Garn Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi 1985 i ddadorchuddio'r gofeb.
Gwrthododd yr awdurdodau dro ar ôl thro i roi arwydd i gyfeirio'r teithiwr at y maen coffa ac felly aeth rhywrai ati yn y dirgel i 'addasu' arwydd eu hunain a'i osod yn y fan.
|