Brwydr Garn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Ychwanegu Llyfryddiaeth bellach
Llinell 7:
 
=== Y Frwydr ===
Ar ddydd Calan 1136, gyda Steffan bellach ar orsedd Lloegr, daeth Hywel ap Maredudd, pennaeth â chryn ddylanwad ganddo ym Mrycheiniog, gyda nifer fawr o Gymry tua Phenrhyn Gŵyr, i ymosod ar y Normaniaid<ref name=":1">Evans (1971)</ref>.  Dynion Brycheiniog, Morgannwg a gogledd Gŵyr oedd cyfansoddiad y fyddin<ref name=":1" />.  'Roedd y Normaniaid wedi hen arfer delioymdrin gydaâ grwpiau bychain o Gymry a'u gorchfygu, ond y tro hwn bu cam-amcangyfrif ac ni ragwelwyd maint byddin y Cymry<ref>Davies (1990)</ref>.
 
Aeth y ddwy fyddin ben-ben a'i gilydd am hanner dydd ar y dydd Calan hwnnw ar dir gerllaw ysbyty Garn Goch heddiw<ref name=":1" />.  Bu galanas a bu farw cannoedd ar y ddwy ochr, 516 o'r Normaniaid yn ôl cofnodion o'r cyfnod.  
 
Dywedir nad oedd yr olygfa a ddilynai'r frwydr yn un ddymunol, gyda chyrff y lladdedigion wedi cael eu llusgo o gwmpas y lle a'u hanner bwyta gan fleiddiaid fyddai'n teyrnasu yng nghors Einon.  
Llinell 41:
 
Evans, G. (1971) Aros Mae. Gwasg John Penry
 
Fychan, C. (2006) Galwad y Blaidd. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
 
Walker, D. (1990) Medieval Wales. Cambridge University Press