Brwydr Garn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Gwladychwyd rhannau o [[Cymru|Gymru]], gan gynnwys Penrhyn [[Gŵyr]], gan werinwyr [[Normaniaid|Normanaidd]] yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg<ref name=":0">Walker (1990) [https://books.google.co.uk/books?id=lrKKiREQ_kYC&lpg=PP1&pg=PA36#v=onepage&q&f=true]</ref>. Erbyn 1106 'roedd brenin [[Lloegr]], [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]], yn ddigon eofn yng [[Cymru|Nghymru]] i roddi [[Gŵyr]] yn anrheg i Iarll Warwick, a hynny heb oresgyn y tir<ref name=":0" />.  Er brwydro ffyrnig erbyn ugeiniau'r ddeuddegfed ganrif, daeth [[Gruffudd ap Rhys|Gruffydd ap Rhys]] i gytundeb â [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]] a bu heddwch<ref name=":0" />.
 
Bu farw [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]] ar yr ail o [[Rhagfyr|Ragfyr]] 1135<ref name=":2" />.
 
== Brwydr Garn Goch ==
 
=== Y Frwydr ===
Ar ddydd [[Calan]] 1136, gyda [[Steffan, brenin Lloegr|Steffan]] bellach ar orsedd Lloegr, daeth Hywel ap Maredudd, pennaeth â chryn ddylanwad ganddo ym [[Teyrnas Brycheiniog|Mrycheiniog]], gyda nifer fawr o [[Cymry|Gymry]] tua Phenrhyn [[Gŵyr]], i ymosod ar y [[Normaniaid]]<ref name=":1">Evans (1971)</ref>.  Dynion [[Teyrnas Brycheiniog|Brycheiniog]], [[Morgannwg]] a gogledd [[Gŵyr]] oedd cyfansoddiad y fyddin<ref name=":1" />.  'Roedd y [[Normaniaid]] wedi hen arfer ymdrin â grwpiau bychain o [[Cymry|Gymry]] a'u gorchfygu, ond y tro hwn bu cam-amcangyfrif ac ni ragwelwyd maint byddin y [[Cymry]]<ref name=":3">Davies (1990)</ref>.
 
Aeth y ddwy fyddin ben-ben a'i gilydd am hanner dydd ar y dydd [[Calan]] hwnnw ar dir gerllaw ysbyty Garn Goch heddiw<ref name=":1" />.  Bu galanas a bu farw cannoedd ar y ddwy ochr, 516 o'r [[Normaniaid]] yn ôl cofnodion o'r cyfnod<ref name=":2">McKurk (1998)</ref>. Yn y cofnod 'Chronicon ex Chronicis' dywed John of Worcester (1140)  <blockquote>"''Immediately after the death of King Henry, on 2nd December, a fierce battle took place on 1st January in Gower between the Normans and the Welsh in which five hundred and sixteen of both armies died. Their bodies were horribly scattered among the fields and eaten up by wolves.''"<ref name=":2" /></blockquote>[[Delwedd:Cofeb Brwydr Garn Goch.jpg|chwith|bawd|Cofeb Brwydr Garn Goch]]Dywedir nad oedd yr olygfa a ddilynai'r frwydr yn un ddymunol, gyda chyrff y lladdedigion wedi cael eu llusgo o gwmpas y lle a'u hanner bwyta gan [[Blaidd|fleiddiaid]] fyddai'n teyrnasu yng [[Gorseinon|nghors Einon]]<ref>Fychan (20016)</ref>.