Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "George Tyler"

Ychwanegwyd 191 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Syr George Tyler KH''', (28 Rhagfyr, 1792 - 4 Mehefin 1862 yn swyddog yn Llynges Frenhinol Prydain, yn llywodraethwr trefedig...')
 
No edit summary
Roedd '''Syr George Tyler KH''', ([[28 Rhagfyr]], [[1792]] - [[4 Mehefin]] [[1862]] yn swyddog yn [[Llynges Frenhinol Prydain]], yn llywodraethwr trefedigaethol ac yn [[Aelod Seneddol]] [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]] dros etholaeth [[Sir Forgannwg (etholaeth seneddol)|Sir Forgannwg]].<ref>[http://www.oxforddnb.com/view/article/27939 J. K. Laughton, ‘Tyler, Sir Charles (1760–1835)’, rev. Andrew Lambert, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2008 ] adalwyd 22 Ion 2017]</ref>
 
==Bywyd Personol==
 
Ganwyd Tyler ym [[Penfro|Mhenfro]] yn fab hynaf y Llyngesydd Charles Tyler.
 
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Llynges Frenhinol [[Portsmouth]].
 
Priododd, ar 21 Medi 1819, Harriet Margaret, merch y Gwir Anrh. John Sullivan, a'r Ledi Harriet, merch George, trydydd iarll Swydd Buckingham; bu iddynt saith mab a phedair merch. Roedd eu merch, Caroline, yn fam i [[Windham Henry Wyndham-Quin]], AS [[De Morgannwg (etholaeth seneddol)|De Morgannwg]] 1895 - 1906<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3280159|title=MAJORWYNDHAMQUINMPBEREAVED - Evening Express|date=1898-10-22|accessdate=2017-01-23|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref>
 
==Gyrfa==
Wedi cyfnod o dair blynedd o hyfforddiant yng Ngholeg y llynges daeth Tyler yn aelod llawn o'r llynges ym 1809. Ym 1811 bu'n ymladd yn erbyn y llynges Ffrengig ym [[Bae Kiberen|Mae Kiberen]] oddi ar arfordir [[Llydaw]] pan gollodd ei fraich dde, derbyniodd pensiwn gan y llywodraeth o £200 y flwyddyn am yr anaf, ond parhaodd ei yrfa yn y llynges<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3303385|title=8LOCALlWTJfiLLItrxfiJNUllj - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser|date=1862-06-13|accessdate=2017-01-23|publisher=Joseph Potter}}</ref>. Gwasanaethodd fel Rhaglaw'r Lluman ar long ei dad oddi ar arfordir [[Penrhyn Gobaith Da]], [[De Affrica|De'r Affrig]] cyn cael ei godi'n Comander ym 1815 ac yn Gapten ym 1822. Rhwng 1833 a 1840 gwasanaethodd fel rhaglaw lywodraethwr Ynys [[Saint Vincent a'r Grenadines|St Vincent]]. Daeth yn llyngesydd wrth gefn ym 1852, ac yn is-lyngesydd ym 1857.
 
==Gyrfa Wleidyddol==