Cerddoleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn |
ehangu fymryn |
||
Llinell 1:
Disgyblaeth academaidd sy'n ymwneud â [[cerddoriaeth|cherddoriaeth]] yw '''cerddoleg'''.<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [musicology].</ref> Mae'n cwmpasu pob agwedd o gerddoriaeth, ac eithrio yr arfer o berfformio a chyfansoddi ei hun, hynny yw hyfforddiant cerddorol. Un o feysydd [[y dyniaethau]] yw cerddoleg. Mewn astudiaethau hanesyddol mae gwreiddiau'r maes, a datblygodd yn hwyrach i grybwyll dadansoddiad a damcaniaeth. Yn hanesyddol bu pwyslais ar gerddoriaeth Ewrop a [[cerddoriaeth glasurol|cherddoriaeth glasurol]] yn enwedig,<ref name=NDHI/> ond bellach caiff pob genre, cyfnod, a diwylliant ei astudio gan y cerddolegydd. Rhennir cerddoleg yn is-feysydd: ffurf a nodiant, bywydau'r cyfansoddwyr a'r cerddorion, datblygiad [[offeryn cerdd|offerynnau cerdd]], [[damcaniaeth cerddoriaeth]], ac [[estheteg]], [[acwsteg]], a [[ffisioleg]].<ref name=EB/>
== Maes ==
Llinell 8:
=== Hanes cerddoriaeth ===
{{prif|Hanes cerddoriaeth}}
Mae'r hanesydd cerdd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys dadansoddi testunau a nodiant ([[paleograffeg]]), ymchwil archifol, a'r dull cymharol.<ref name=NDHI>{{eicon en}} "[http://www.encyclopedia.com/literature-and-arts/performing-arts/music-theory-forms-and-instruments/musicology#1G23424300513 musicology]" yn y ''New Dictionary of the History of Ideas'' (Gale, 2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 23 Ionawr 2017.</ref>
=== Estheteg ===
Agwedd [[athroniaeth|athronyddol]] ar gerddoriaeth yw estheteg, sy'n ymchwilio i effeithiau, emosiynau, [[semanteg]], [[ontoleg]], a [[canfyddiad|chanfyddiad]] gweithiau cerddorol.<ref name=NDHI/>
=== Acwsteg ===
{{prif|Acwsteg}}
Ffiseg [[sain]] gerddorol yw acwsteg.
=== Ffisioleg ===
Llinell 20 ⟶ 23:
{{prif|Ethnogerddoleg}}
[[Delwedd:Frances Densmore recording Mountain Chief2.jpg|bawd|Yr ethnograffydd Frances Densmore yn recordio caneuon y penadur [[Piikáni]] (''Blackfoot'') Mountain Chief ym 1916.]]
Trwy gyfuno astudiaethau cerdd ag [[ethnoleg]], datblygodd y maes ethnogerddoleg sy'n astudio agweddau diwylliannol a chymdeithasol cerddoriaeth. Hon yw agwedd [[anthropoleg]]ol neu [[ethnograffeg|ethnograffig]] cerddoleg.
=== Organoleg ===
Astudiaeth offerynnau cerdd yw organoleg: eu hanes, dyluniad, a gwneuthuriad.
=== Addysg a gwerthfawrogiad ===
Pwrpas beirniadaeth cerdd yw dadansoddi, disgrifio, a dehongli gweithiau cerddorol, neu'r broses gerddorol. Mae'r is-faes hwn yn tynnu ar estheteg yn bennaf.<ref name=NDHI/>
=== Agweddau eraill ===
Cafwyd effaith ar gerddoleg gan [[gwyddorau cymdeithas|wyddorau cymdeithas]], yn bennaf [[cymdeithaseg]] a [[seicoleg]]. Hefyd yn [[astudiaethau diwylliannol]], mae [[delw-arluniaeth]] yn gynrychioliad gweledol o bynciau cerddorol, megis offerynnau a cherddorion, mewn testunau, celfyddyd, arian, a chyfryngau eraill.<ref name=NDHI/>
== Dull ac agweddau ==
{{eginyn-adran}}
== Hanes ==
Llinell 32 ⟶ 42:
Cychwynodd ymchwil hanesyddol ym maes cerddoriaeth yn y 18fed ganrif. Ymhlith y gweithiau cynnar mae hanesion yr Eidalwr G. B. Martini (''Storia della musica''; 1757–81), yr Almaenwr Martin Gerbert (''De cantu et musica sacra''; 1774), a'r Saeson Charles Burney (''General History of Music''; 1776–89) a J. Hawkins (''General History of the Science and Practice of Music''; 1776). Yn y 19eg ganrif cynyddodd diddordeb yng ngherddoriaeth hynafol a chanoloesol, ac ymdrechodd ysgolheigion i ddeall yr hen ffurfiau o nodi cerddoriaeth. Llwyddodd y Belgiad François Joseph Fétis (1784–1871) a'r Awstriad August Wilhelm Ambros (1816–76) i lunio hanesion cynhwysfawr o ddatblygiad cerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys trawsgrifiadau o gyfansoddiadau o'r Oesoedd Canol a'r Dadeni. Ymddiddorodd [[Samuel Wesley]], [[Felix Mendelssohn]] ac eraill yng ngweithiau'r cyfansoddwyr cynt, a gwnaed rhagor o ymchwil i'r hen nodiant gan Johannes Wolf.<ref name=EB/> Bathwyd yr enw Almaeneg ''Musikwissenschaft'' gan yr athro cerdd J. B. Logier ym 1827.<ref name=Oxf/> Yn ei lyfr ''Jahrbücher für musikalischer Wissenschaft'' (1863), defnyddiodd F. Chrysander y gair hwnnw wrth ddadlau dros astudio gwyddor cerdd a gosod sylfaen a safonau methodolegol iddi.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/topic/musicology |teitl=musicology |dyddiadcyrchiad=23 Ionawr 2017 }}</ref> Ymledodd yr enw ar draws Ewrop a chafodd yr astudiaethau hanesyddol eu mabwysiadu gan y maes newydd.
Sefydlwyd y Gymdeithas Gerddoriaeth Frenhinol ym Mhrydain ym 1874, a'r Gymdeithas Gerddoleg Americanaidd ym 1934. Pwrpas y Gymdeithas Gerddoriaeth Ryngwladol (1900–14) oedd i hybu astudiaeth cerddoleg, a pharháodd dan ei olynydd y ''Société Internationale de Musicologie'' a sefydlwyd ym 1928.<ref name=Oxf>{{eicon en}} "[http://www.encyclopedia.com/literature-and-arts/performing-arts/music-theory-forms-and-instruments/musicology#1O76musicology musicology]" yn ''The Concise Oxford Dictionary of Music'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1996). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 23 Ionawr 2017.</ref> Cafwyd dylanwad ar gerddoleg gan
== Cyfeiriadau ==
|