Llanilltud Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Ceir olion hen fila [[Rhufeiniaid|Rhufeinig]] tua 1 filltir o'r dref.
 
Mae hen eglwys [[Sant]] [[Illtud]] yn enwog iawn. Mae'n sefyll ar safle'r hen fynachlog ([[clas]]) a sefydlwyd yno gan y sant. Daeth yn ganolfan [[dysg]] bwysig a dylanwadol yn yr Oesoedd Canol cynnar. Roedd yn mwynhau nawdd brenhinoedd fel [[Hywel ap Rhys]], brenin [[Glywysing]] (m. [[886]]), a gladdwyd yno. Cafodd mynachlog Llanilltud ei hanreithio gan y [[Llychlynwyr]] yn [[988]]. Daeth yr eglwys yn eiddo [[Abaty Tewkesbury]] tua [[1130]] ar ôl i'r [[Normaniaid]] orsegyn [[teyrnas Morgannwg]].
 
Mae'n bosibl fod y bardd [[Lewys Morgannwg]] (fl. [[1520]]-[[1565]]) yn byw yn Llanilltud Fawr, er ei fod yn frodor o [[Tir Iarll|Dir Iarll]]. Canodd gerdd i Illtud Sant sydd ar glawr heddiw.
 
{{Trefi_Bro_Morgannwg}}
{{eginyn Cymru}}
 
[[Categori:Trefi Bro Morgannwg]]