Edward H. Dafis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 92.2.81.101 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Tegel.
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
 
Llwyddodd y grŵp i gyfansoddi nifer o ganeuon sydd yn boblogaidd iawn hyd heddiw, fel ''Breuddwyd Roc a Rôl'', ''Smo fi ishe mynd'', ''Ysbryd y Nos'','' 'Sneb yn Becso Dam'', ''Cân mewn Ofer'' a ''Dewch at eich Gilydd''.
 
==Gyrfa==
Ffurfiwyd Edward H Dafis gan Dewi Morris o Abertawe, gynt o'r Tebot Piws, a Hefin Elis o Bort Talbot, cyn-aelod o'r Datguddiad, Y Nhw a'r Chwyldro. Ymunodd John Griffiths o Bont-rhyd-y-fen ar y gitâr bas, ac wedyn Charli Britton o Gaerdydd, drymiwr sesiwn gyda Hergest a nifer o grwpiau eraill.
 
Rhyddhawyd un EP i Sain ym 1973 ac ymddangosodd un trac, Can Y Stiwdants ar yr albwm fyw Tafodau Tân.
 
Erbyn Hen Ffordd Gymreig O Fyw (Sain, 1974) roedd Cleif Harpwood (gynt o Ac Eraill) wedi ymuno fel prif leisydd. Dyma albwm cyntaf Edward H, ac roedd yn garreg filltir yn hanes canu roc a phop Cymraeg.
 
Roedd Ffordd Newydd Eingl Americanaidd Grêt O Fyw (Sain, 1975) braidd yn siomedig, ac roedd e'n amlwg bod y grŵp wedi colli ffordd rhywsut, ond roedd 'na uchafbwyntiau, fel cân Dewi Morris Lisa Pant Ddu.
 
Mae mwy o hanes y ferch ifanc o gefn gwlad yn cael ei adrodd ar 'Sneb Yn Becso Dam (Sain, 1976). Hon yw record hir gorau'r band heb os nac oni bai. Chwalodd y grŵp ar ôl cyngerdd ffarwel yng Nghorwen ar yr 11eg o Fedi 1976.
 
Atgyfodwyd y band ym 1978 mewn cyngerdd yn Nhalybont, a rhyddhawyd Yn Erbyn Y Ffactore (Sain, 1979) sy'n cynnwys y bytholwyrdd Ysbryd Y Nos.
 
Erbyn Plant Y Fflam (Sain, 1980) roedd sŵn y band wedi troi braidd yn slic ac yn saff. Penderfynwyd chwalu ar ôl perfformio yn Llanbadarn Roc ar yr 11ef o Orffennaf 1981.
 
Cyhoeddwyd casgliad o waith y grŵp yn 2005, Edward H Mewn Bocs.
 
==Aelodau==