Geraint Jarman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu dolenni
Llinell 30:
Symudodd Geraint i Gaerdydd pan yn bedair, lle cafodd brofiad o ddiwylliannau amrywiol trigolion y Riverside yng Nghaerdydd, gan wrando ar eu cerddoriaeth a'u hofferynau.
 
Esblygodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth, a gyda [[Meic Stevens]] a [[Heather Jones]] ffurfiodd [[Bara Menyn]] yn nechrau'r 70au, oedd yn hwb allweddol i'r sîn roc Gymraeg cynnar gyda chaneuon enwog megis Mynd i'r Bala ar y Cwch Banana.
 
Roedd hi'n 1976 pan ddaeth albwm gyntaf Geraint allan, ac ystyriwyd Gobaith Mawr y Ganrif fel cynnyrch artist oedd am wneud argraff sylweddol ar roc Cymraeg. Eto, anodd fyddai credu yr adeg hynny y byddai'n parhau i gyfansoddi a rhyddhau heb argoel ei fod am stopio ymhell i'r mileniwm newydd. Roedd y drac deitl yn diwn rocaidd hwyliog gwych, "I've Arrived" a Merched Caerdydd yn sbort aruthrol bendigedig, gyda Lawr yn y Ddinas yn rhoi arlliw galluog i'w ddylanwadau reggae cryf.
 
Yn 1977 rhyddhaodd Tacsi i'r Tywyllwch, a wnaeth argraff yr un mor drawiadol, yn cynnwys traciau megis yr iasol Ambiwlans, y ffynci Dyn Oedd yn Hoffi Pornograffi a'r clasur Bourgeois Roc*. Erbyn hyn roedd gigiau Jarman yn chwedlonol, a nosweithiau gwallgof yn rhannu llwyfan gyda'r Trwynau Coch, [[Edward H. Dafis]] ac eraill yn arferol.
 
Amhosibl fyddai anwybyddu cyfraniad [[Tich Gwilym]], prif gitarydd y Cynganeddwyr, i'r llwyddiant a'r llewyrch, a byddai crescendo'r noson yn dueddol o orffen gyda'i fersiwn unigol o [[Hen Wlad fy Nhadau|Hen Wlad Fy Nhadau]].
 
Yn 1978 gwelwyd dyfodiad yr albwm Hen Wlad Fy Nhadau, oedd os rywbeth yn curo ei ymgeision blaenorol gwych - cewri o ganeuon megis Ethiopia Newydd, Instant Pundits, Sgip ar Dân, Merch Tŷ Cyngor a Methu Dal y Pwysa yn cyfrannu at un o albwms y ganrif heb os.
Llinell 46:
Yn selio ei statws fel prif artist Cymru gwelwyd traciau arbennig megis y gorffwyll Crogi Llygoden, yr anthem hapus Diwrnod i'r Brenin a'r Patagonia epigol oddi ar Diwrnod i'r Brenin yn 81.
 
Yn 1983 rhyddhaodd Macsen oedd yn drac sain i ffilm [[Gareth WynWynn Jones]] o'r un enw, oedd yn cynnwys Siglo ar y Siglen a Cwd, a daeth Enka yn '84, oedd yn brosiect ffilm arall ac yn ddechrau ar ddiddordeb Geraint yn y maes fideo, gyda thraciau gwych megis Nos Da Saunders a Cenhadon Casineb.
 
O hynny aeth ymlaen i weithio ar y gyfres arloesol a hanfodol [[Fideo 9]] i Criw Byw am bum mlynedd, gan roi stop ar ei gatalog tan 1992 pan recordiwyd Rhiniog ar label [[Ankst]]. Gyda sŵn gwahanol a hynod gyfeillgar roedd yn arallgyfeiriad sylweddol a welodd ganlyniadau ffantastig megis Kenny Dalglish, Hei Mr DJ, Llwyth Dyn Diog a mwy. Amhosib fyddai pasio heb roi sylw arbennig i'r emosiynol Strydoedd Cul Pontcanna a'r gwefreiddiol Tracsuit Gwyrdd oedd yn cyfrannu at albwm godidog.
 
Roedd y safon yr un mor lewyrchus yn Y Ceubal Y Crossbar a'r Quango, oedd yn taro tant gyda thraciau gwych megis Rhedeg Lawr y Tynal Tywyll, Animeiddio Goleudy Mewn Rhyfel, Anifail Brigitte Bardot, gyda [[Cerys Matthews|Cerys Mathews]] yn cyfrannu llais cefndir, a'r melys Enillais Hen Gariad.
 
Gyda dau albwm mor drawiadol ganddo ar ei newydd wedd doedd ganddo ddim mwy i'w brofi, ond gwelwyd yr albwm annisgwyl Eilydd Na Ddefnyddiwyd yn 1998, oedd yn hannu mwy at reggae tywyll, a mewn gwirionedd nid oedd cweit yn cyrraedd uchelfannau Rhiniog a Ceubal, er fod rhaid nodi Asyn Eira ac yn enwedig Ti'n Gwybod Be Ddudodd Marley fel traciau penigamp.
 
Yn 2002 rhyddhodd EP Môrladron, CD 5 trac, hawdd i wrando arni, oedd yn cynnwys y gân Môrladron - prosiect ar y cyd gyda meistri'r ail-gymysgu [[Llwybr Llaethog (band)|Llwybr Llaethog]]. Yn yr flwyddyn, fe recordiodd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr sesiwn arbennig i raglen C2 Radio Cymru welodd Jarman yn arbrofi gyda synnau latino [[De America]] ac yn mynd nôl i'w wreiddiau [[reggae]].
 
Dros y blynyddoedd diweddar, rhyddhawyd casgliad o ganeuon byw Jarman, Yn Fyw-1977-1981 - Jarman ar ei orau - a'r set gynhwysfawr Atgof Fel Angor, sy'n cynnwys 15 CD! Mae hefyd wedi troi ei law at gyflwyno ei rhaglenni ei hun ar [[C2]] [[BBC Radio Cymru|Radio Cymru]].
 
Bu 2011 yn flwyddyn brysur i Geraint Jarman. Rhyddhaodd albwm newydd, Brecwast Astronot ar label [[Ankstmusik]], dychwelodd i Radio Cymru gyda'i gyfres gerddoriaeth, 'Jarman' a chyhoeddodd ei gyfrol hunangofiannol, Y Twrw Jarman ([[Gwasg Gomer|Gomer]]).