Super Furry Animals: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Dolenni Allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 21:
 
Band roc arbrofol o [[Cymru|Gymru]] yn canu yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] a'r [[Saesneg]] yw '''Super Furry Animals''', adnabyddir hwy hefyd odan y byrenwau '''Super Furries''' neu '''SFA'''. Mae'r band wedi ei ffurfio o weddillion [[Ffa Coffi Pawb]] a oedd yn cynnwys [[Gruff Rhys]] a [[Dafydd Ieuan]] fel aelodau gwreiddiol. Maent yn enwog yng Nghymru am yr albwm ''[[Mwng (albwm)|Mwng]]'' [http://www.mwng.co.uk] sef y cryno ddisg mwyaf llwyddianus o ran gwerthiant erioed yn [[Cymraeg|yr iaith Gymraeg]].
 
==Gyrfa==
Yng nghanol tŵf y grwpiau 'Cŵl Cymru' yng nghanol y 90au, aeth Dafydd Ieuan (drymiwr gyda [[Catatonia]]) ati i berswadio Gruff Rhys i ddychwelyd o fod yn artist yn [[Sbaen]] er mwyn ffurfio band newydd. Y nod oedd manteisio ar y sylw roedd y diwydiant recordiau yn [[Llundain]] yn dangos tuag at gerddoriaeth o Gymru.
 
Yn syth, sicrhaodd record cynta'r grwp, ''Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (In Space)'' ar label [[Ankst]] yn 1995, gytundeb recordio efo label pwysica'r cyfnod - Creation Records.
 
Yn wahanol i stori Ffa Coffi Pawb (grŵp Dafydd a Gruff yn yr 80au) llwyddodd y Super Furry Animals i droi'r freuddwyd pop yn realiti. Wnaethon nhw osod eu hunain ar unwaith yng nghanol y byd 'Britpop' a mynnu sylw a chlod am greu cerddoriaeth llawn dychymyg oedd ben ac ysgwydd uwchlaw gweddill grwpiau ystrydebol y cyfnod.
 
Ar ddechrau ei gyrfa, recordiodd y grŵp cyfres o albymau gwych - ''Fuzzy Logic'' (1996), ''Radiator'' (1998), a ''Guerilla'' (1999) - yn arddangos gallu arallfydol Gruff Rhys i sgrifennu clasuron pop.
 
Ers y cychwyn mae'r SFA wedi gweithio'n ddi-ddiwedd i sicrhau bod eu cerddoriaeth yn cyrraedd y gynulleifa fwya posib - gan deithio bob man ar draws y byd ac ymddangos ar bob rhaglen deledu o Top of the Pops i Richard and Judy. Yn ôl Gruff, "does gan y grŵp ddim problem efo chwarae'r gêm yma".
 
Mae'r gêm yn cynnwys cludo tanc ffyri i wyliau roc, uniaethu efo [[Howard Marks]] - gwerthwr cyffuriau mwya'r byd, creu cymeriadau awyr anferth, chwarae gigs roc sy'n troi'n naturiol mewn i rêfs ecstatig, saethu fideos pop yn [[Colombia]], noddi clwb pêl-droed, chwarae trwy systemau sain quadraphonic, recordio sengl sy'n cynnwys mwy o regfeydd nag unrhyw record erioed o'r blaen, a rhyddhau albym yn y Gymraeg sy'n cyrraedd y siartiau Prydeinig.
 
Fel grŵp maen nhw wedi swyno'r wasg a'r gynulleidfa efo'u Cymreictod naturiol a'u gallu i wyrdroi'r hen drefn ddiflas o fod mewn band, gyda deallusrwydd ac arddulliau o'r byd celf.
 
Rhyddhawyd yr albwm diweddaraf, ''Dark Days, Light Years'' yn 2009 (Rough Trade Records) ac ers hynny mae'r band wedi canolbwyntio ar waith unigol gyda Gruff Rhys yn arbennig o weithgar yn rhyddhau nifer o albymau fel ''CandyLion'' a ''Hotel Shampoo'' a'i brosiect llwyddiannus Neon Neon. Bu sibrydion fod y band wedi chwalu ond mae yna obaith y bydd SFA yn dychwelyd unwaith eto gydag albwm newydd yn y dyfodol agos.
 
Does na ddim byd sy'n arferol am y Super Furry Animals er bod eu credo yn un syml, yn ôl Gruff: "da ni'n obsessed efo miwsic a jest isio creu albyms ffantastic".
 
== Disgograffi ==
Llinell 68 ⟶ 87:
* [[Run-Away]] - 29 Hydref 2007
* [[The Gift That Keeps Giving]] - 25 Rhagfyr 2007
* [[Bing Bong]] - 13 Mai 2016
 
=== DVD ===
Llinell 76 ⟶ 96:
== Dolenni Allanol ==
* [http://www.superfurry.com/ Gwefan Swyddogol]
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/cerddoriaeth/artistiaid/super_furry_animals.shtml Proffil y band gan BBC Cymru]
 
{{Eginyn cerddoriaeth}}
Llinell 84 ⟶ 105:
[[Categori:Bandiau Cymreig|Super Furry Animals]]
[[Categori:Super Furry Animals| ]]
[[Categori:Prosiect Wicipop]]