Gruff Rhys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B →Dolenni Allanol: clean up using AWB |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 27:
Ysgrifennodd ganeuon pan oedd yn ifanc iawn. Bu'n ddrymiwr yn y band Emily a [[Ffa Coffi Pawb]] cyn ffurfio'r grŵp [[Super Furry Animals]], ar ôl mudo i dde Cymru.
Creodd y ffilm a phrosiect aml-blatfform [[I Grombil Cyfandir Pell]] am ei daith i'r Unol Daleithiau yn 2012.<ref>http://www.s4c.cymru/americaninterior/c_index.shtml</ref><ref>https://s4c.cymru/c_press_level2.shtml?id=1060</ref>
==Gyrfa==
Arferai Gruff Rhys chwarae yn yr un band â chanwr Celt, [[Martin Beattie]], ym [[Bethesda|Methesda]] yn ei arddegau ond daeth i amlygrwydd yn nes ymlaen fel prif leisydd Ffa Coffi Pawb.
Ar ôl arwyddo i label [[Ankst]], fe ddaeth Ffa Coffi yn un o brif fandiau Cymru gan ryddhau tair albwm - ''Clymhalio'', ''Dalec Peilon'' a ''Hei Vidal''. Pan chwalodd y grŵp yn 1993, aeth Gruff i astudio celf yn [[Barcelona]] am gyfnod cyn mynd ati gyda'r drymiwr [[Dafydd Ieuan]] o [[Rhos Cefn Hir|Roscefnhir]] i ffurfio'r Super Furry Animals. Aelodau'r grŵp bellach ydy Gruff y lleisydd, Dafydd ar y drymiau, [[Cian Ciarán|Cian Ciaran]], brawd Dafydd ar yr allweddellau, Huw 'Bunf' Bunford ar y gitâr a [[Guto Pryce]] ar y gitâr fâs.
Yn 1995, fe arwyddodd y band i label Creation Records. Yn ôl y stori, gofynnodd Alan McGee, pennaeth y cwmni, iddyn nhw ganu mwy o ganeuon yn Saesneg ar ôl bod yn eu gwylio'n perfformio - heb ddeall eu bod nhw wedi canu pob cân yn Saesneg. Fe wnaethon nhw'n siwr wrth arwyddo fod eu cytundeb yn cynnwys diwrnod o wyliau ar [[Dydd Gŵyl Dewi|Ddydd Gŵyl Ddewi]] bob blwyddyn.
Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, [[Fuzzy Logic]], yn 1996 - yr albwm gyntaf i Gruff ganu yn Saesneg arni. Wedi llwyddiant Fuzzy Logic aeth SFA ymlaen i fod yn un o fandiau mwyaf cynhyrchiol, creadigol a hirymarhous y sîn. Gyda sawl EP ac albwm Saesneg y tu ôl iddyn nhw erbyn hyn, fe wnaethon nhw hefyd gyhoeddi albwm Gymraeg hynod lwyddiannus, [[Mwng (albwm)|Mwng]], yn 2000.
Ar ddechrau eu gyrfa roedd y band yn enwog am sawl rheswm heblaw eu cerddoriaeth fel yr eirth 40 troedfedd a'r tanc glas a ddefnyddiwyd ar eu teithiau cynnar ac am rannu llwyfan gyda dau 'ieti' cynoesol.
Yn 2003 daeth Gruff nôl i dref ei fagwraeth gyda'r Super Furries i gymryd rhan yng ngŵyl Pesda Roc, atgyfodiad o wyliau llai yr 80au yn y dref i ddathlu canmlwyddiant diwedd [[Streic Fawr y Penrhyn]].
Ym mis Ionawr 2005, recordiodd ei albwm unigol gyntaf, yr Atal Genhedlaeth, gan berfformio ar ei ben ei hun, ynghyd ag [[Alun Tan Lan]] a phrosiect Kerdd Dant ar daith o amgylch theatrau Cymru i'w hyrwyddo. Ers hynny, mae wedi rhyddhau tri albwm unigol arall sef Candylion, Hotel Shampoo, ac American Interior, ac mae wedi cydweithio gyda nifer o fandiau ac artistiaid eraill, yn ogystal a pharhau i recordio a rhyddhau sawl albwm gyda'r Super Furry Animals. Mi wnaeth hefyd ffurfio'r band Neon Neon, ac mae wedi sefydlu label recordio o'r enw Irony Bored, sef y label wnaeth ryddhau albwm cyntaf [[Cate Le Bon]].
Ym mis Hydref 2011, cyhoeddwyd mai Rhys oedd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg newydd am ei albwm boblogaidd, 'Hotel Shampoo'.
==Disgograffi==
Llinell 38 ⟶ 53:
* ''[[Hotel Shampoo]]'', 2011, ([[Ovni Music]])
* ''[[American Interior]]'', 2014, ([[Turnstile Music]])
* ''[[Set Fire to the Stars]]'', 2016, ([[Finders Keepers Records]])
== Dolenni Allanol ==
* [http://www.bbc.co.uk/wales/music/sites/superfurryanimals/pages/gruff_rhys.shtml
* [http://www.superfurry.com
* [http://www.placidcasual.com
* [http://www.myspace.com/candylionmusic
* [http://www.myspace.com/neonx2
* [http://www.myspace.com/oneeyedbear
* [http://www.bbc.co.uk/wales/music/sites/superfurryanimals/pages/sfa_faq.shtml
* [http://www.thewheelsstillinspin.com/2007/03/gruff_rhys_cand.html
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/cerddoriaeth/artistiaid/gruff_rhys.shtml Proffil Gruff Rhys gan BBC Cymru]
{{Rheoli awdurdod}}
Llinell 62 ⟶ 79:
[[Categori:Pobl o Sir Benfro]]
[[Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Ogwen]]
[[Categori:Prosiect Wicipop]]
|