Dafydd Iwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B oed
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 38:
| nodiadau =
}}
Gwleidydd, canwr poblogaidd a chyfansoddwr caneuon, awdur a chyfarwyddwr busnes o Gymru yw '''Dafydd Iwan''' (ganwyd '''Dafydd Iwan Jones''', [[24 Awst]] [[1943]], [[Brynaman]], [[Sir Gaerfyrddin]]). Mae'n fab i'r llenor Cymraeg [[Gerallt Jones]]. Symudodd y teulu i'r [[Bala]] pan oedd Dafydd yn ei arddegau. Mae'n cael ei adnabod fel canwr protest ac un o ffigyrau mwyaf amlwg y sin pop a gwerin yng Nghymru hyd heddiw.
 
==Gyrfa==
Llinell 48:
 
Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Dafydd Iwan yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]] yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg [[S4C]], a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r [[BBC]].<ref>[http://www.golwg360.com/celfyddydau/sgrin/6609-s4c-100-yn-gwrthod-talu-r-drwydded-deledu S4C: 100 yn gwrthod talu’r drwydded deledu] Golwg360 10 Ionawr 2011</ref>
 
==Cerddoriaeth==
Ar ôl ymddangos ar raglen newyddion Y Dydd ym 1965, arwyddodd i label Welsh Teldisc. Recordiodd nifer o EPs i'r cwmni rhwng 1966-1969, rhai gydag Edward Morris Jones. Erbyn heddiw mae caneuon fel 'Mae'n Wlad I Mi', 'Wrth Feddwl Am Fy Nghymru' a 'Carlo' yn cael ei ystyried yn glasuron.
 
Ym 1969 sefydlodd Cwmni Recordiau Sain gyda Huw Jones a Brian Morgan Edwards. Rhyddhaodd gyfres o EPs dylanwadol ar Sain, oedd yn cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, fel 'Gorau Cymro, Cymro Oddi Cartref', 'Peintio'r Byd Yn Wyrdd' a 'Pam Fod Eira Yn Wyn'. Mae nifer o'r caneuon yma, a rhai o'r cyfnod Welsh Teldisc, ar gael ar ''Y Dafydd Iwan Cynnar'' (Sain, 1998).
 
Ym 1972, ail-recordiodd nifer o'i hen ganeuon Welsh Teldisc yn Stiwdio Rockfield gyda Dave Edmunds, ar gyfer ''Yma Mae Nghân'' (Sain, 1972).
 
Mae rhai yn ystyried ''Mae'r Darnau Yn Disgyn I'w Lle'' (Sain, 1976) fel ei albwm cyntaf a chryfaf, oedd yn cynnwys y ffefryn 'Mae Rhywun Yn Y Carchar'. Mae'r LP ar gael yn ei chyfanrwydd ar ''Y Dafydd Iwan Cynnar''.
 
Recordiwyd ''Bod Yn Rhydd'' (Sain, 1979) yn sgil methiant y refferendwm ar ddatganoli, ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu hynny.
 
Mae ''Ar Dân'' (Sain, 1981) yn recordiad byw gyda Hefin Elis a Tudur Huws Jones, ''Rhwng Hwyl A Thaith'' (Sain, 1982) a ''Yma O Hyd'' (Sain, 1983) gydag [[Ar Log]], sy'n cynnwys dwy o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, 'Yma O Hyd' a 'Cerddwn Ymlaen'.
 
Roedd ''Gwinllan A Roddwyd'' (Sain, 1986) yn deyrnged i [[Saunders Lewis]], [[D. J. Williams|DJ Williams]] a [[Lewis Valentine]], hanner can mlynedd ers [[Tân yn Llŷn|llosgi Ysgol Fomio]] [[Penyberth]].
 
Roedd rhaid aros pum mlynedd tan ''Dal i Gredu'' (Sain, 1991), oedd yn cynnwys 'Yr Anthem Geltaidd' a fabwysiadwyd ym 1990. Roedd ''Caneuon Gwerin'' (Sain, 1994) yn brosiect ar y cyd gyda Tudur Morgan a ''Cân Celt'' (Sain, 1995) yn gasgliad o ganeuon newydd a rhai oedd wedi eu recordio o'r newydd.
 
I ddathlu ei ymddeoliad o ganu yn gyhoeddus recordiwyd ''Yn Fyw Cyfrol 1 a 2'' (2001 a 2002) yn fyw gyda band newydd. Ym 2007 rhyddhawyd ''Man Gwyn'' (Sain, 2007), sy'n cynnwys teyrnged i'w arwr [[Gwynfor Evans]], 'Daeth Yr Awr, Daeth Y Dyn'.
 
Rhyddhaodd gasgliad newydd o ganeuon yn 2009, ''Dos I Ganu''. Sbardunwyd yr albwm, a'r gân-deitl, gan y faner a osodwyd ar bont yng [[Caernarfon|Nghaernarfon]] adeg etholiad Mai 2008, yn dilyn helynt ad-drefnu ysgolion Gwynedd.
 
== Albymau (mewn trefn gronolegol) ==
Llinell 83 ⟶ 104:
==Dolenni allanol==
*[http://dafyddiwan.com/ Gwefan swyddogol]
*[http://www.bbc.co.uk/cymru/cerddoriaeth/artistiaid/dafydd_iwan.shtml Proffil Dafydd Iwan gan BBC Cymru]
 
{{dechrau-bocs}}
Llinell 96 ⟶ 118:
[[Categori:Dafydd Iwan| ]]
[[Categori:Cantorion Cymraeg]]
[[Categori:Prosiect Wicipop]]
[[Categori:Cerddorion Cymreig]]
[[Categori:Genedigaethau 1943]]