Ffa Coffi Pawb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
del
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 23:
 
Buont yn recordio caneuon yng nghartref Rhodri Puw am gyfnod, ar offer stereo cartref. Wedi mynychu cyfarfodydd Pop Positif - cyweithfa cerddorol a sefydlwyd ym [[Bangor|Mangor]] gan [[Rhys Mwyn]] - daethont i gysylltiad a [[Gorwel Owen]], [[Recordiau Ofn]]. Rhyddhawyd fersiwn o'u can ''Octopws'' ar dap aml-gyfrannog Pop Positif. Arweiniodd y recordiad yma at ffrae gyda grwp lleol amlwg arall, ''Tynal Tywyll'', wedi i Nathan, gitarydd y grwp hwnw, ail-recordio rhan o ''Octopws''. Bu'r grwp yn gyfrifol am recordio tair record hir. ''Dalec Peilon'' oedd y gyntaf, a ryddhawyd ar [[Recordiau Huw]] (label [[Huw Gwyn]]) ym [[1988]]. Dilynwyd hon gan ''Clymhalio'', a ryddhawyd ar [[Ankst]] ym [[1991]], a wedyn ''Hei Vidal'' ym [[1992]].
[[Delwedd:Gruff Rhys, Ffa Coffi Pawb - 5500511492.jpg|bawd|chwith|180px|Gruff Rhys, Ffa Coffi Pawb; Roc Ystwyth 1989.]]
 
Dros y cyfnod yma, datblygodd y grŵp ysgrifennu caneuon arbrofol, nid yn anhebyg i [[Jesus and Mary Chain]], i ysgrifennu caneuon pop gyda naws [[1970au|70au]]. Chwaraeodd y grŵp eu gig olaf yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993|Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, ym 1993]]. Cafodd casgliad o oreuon Ffa Coffi Pawb ''Am Nyth'' ei ryddhau ar label Placid Casual yn [[2004]]. Aeth Gruff Rhys a Dafydd Ieuan ymlaen i ffurfio'r ''[[Super Furry Animals]]''. Bu Rhodri Puw yn chwarae gyda ''[[Psycho VII]]'' am gyfnod, a wedyn ''[[Gorky's Zygotic Mynci]]''. Mae Dewi Emlyn yn gweithio gyda'r Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci a sawl band arall. Rhyddhaodd Gruff ddau albwm hwyrach yn ei yrfa, ''Yr Atal Genhedlaeth'' a ''Candylion''.