Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwyddno Garanhir"

Ychwanegwyd 460 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
(interwici Ffrangeg)
(ehangu)
Cymeriad chwedlonol Cymreig oedd '''Gwyddno Garanhir''' (neu '''Gwyddneu'''). Mae'n ymddangos gyntaf yn nhraddodiadau [[yr Hen Ogledd]], ac mae ''[[Bonedd Gwŷr y Gogledd]]'' yn ei ddisgrifio fel un o ddisgynyddion y brenin [[Dyfnwal Hen]].
 
Ymddengys mewn chwedloniaeth fel arglwydd [[Cantre'r Gwaelod]], a leolid yn draddodiadol ym [[Bae Ceredigion]], gyferbyn i Aberystwyth ac Aberdyfi. Cedwid y môr allan gan lifddorau, ond un diwrnod roedd y gwyliwr, [[Seithenyn]], yn feddw, a boddwyd Cantre'r Gwaelod gan y môr. Mae'r gerdd ''Seithennin Saf Allan'' yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]] yn cyfeirio at foddi "Maes Gwyddneu" (Maes Gwyddno).
 
Mae cyfeiriad at GwyddneuGwyddno yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', ac mae ei fab, [[Elffin ap Gwyddno]], yn gymeriad amlwg yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'' fel noddwr [[Taliesin Ben Beirdd]].
 
==Cyfeiriadau==
*Ford, Patrick K. (gol.), ''Ystoria Taliesin'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992). Testun ''Hanes Taliesin'' yn llaw Elis Gruffydd.
*North, Frederick John, ''Sunken cities: Some legends of the coast and lakes of Wales'' (Caerdydd, 1957)
*Williams, Taliesin (gol.), ''The Iolo Manuscripts'' (1848)
 
 
[[Categori:Teyrnas Ceredigion]]
 
[[en:Gwyddno Garanhir]]
[[fr:Gwyddno Garanhir]]
[[it:Gwyddno Garanhir]]