Rhyfeloedd y Rhosynnau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Guto
Llinell 10:
Er na fu brwydrau o bwys yng [[Cymru|Nghymru]], yr oedd Cymru'n ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau [[Iarll Penfro]], [[Siaspar Tudur]] dros y Lancastriaid a [[William Herbert]] dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr [[Rhys ap Thomas]] ran bwysig mewn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn [[brwydr Bosworth]]. Tueddai'r rhan fwyaf o'r [[Cymry]] i ochri â phlaid y [[Lancastriaid]] yn erbyn yr [[Iorciaid]], ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Roedd [[Guto'r Glyn]] er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid a bu'n fyw drwy gyfnod y rhyfeloedd.<ref>[http://www.gutorglyn.net/gutoswales/cy/ygad-rhyfelrhos.php gutorglyn.net;] adalwyd 4 Chwefror 2017.</ref> Ym [[Brwydr Mortimer's Cross|Mrwydr Mortimer's Cross]] yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd [[Owain Tudur]]. Bu farw Tywysog Cymru, [[Edward o San Steffan]], ym [[Brwydr Tewkesbury|Mrwydr Tewkesbury]] ar 4 Mai 1471.
 
Brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry oedd Brwydr Mortimer's Cross ([[1461]]), ac roedd treuan milwyr Harri yn Gymry yn ôl John Davies.<ref>''Hanes Cymru''; cyhoeddiad Penguin; 2009; tud 206)</ref> Galwodd y bardd [[Lewis Glyn Cothi]] frwydr Banbury yn 'drychineb cenedlaethol' gan i gymaint o Gymry farw ynddi. Gwelodd [[Carnhuanawc]] dristwch yn y sefyllfa wedi gwaed Cymry'n cael ei golli dros goron Lloger yn hytrach na thros 'eu breintiau cynhenid fel trigolion Cymru'. ond yn gyffredinol, chwiliai'r beir am genedlaethau am arweinydd Cymreig newydd: yn y 1450au, Siasbar Tudur oedd eu harwr, yn y 1460au, oherwydd ei berthynas â [[Llywelyn Fawr]], [[Edward IV, brenin Lloegr]] oedd hwnnw. Edrychid ar Herbert hefyd fel un o'r arwyr, ac wedi iddo gael ei ddienyddio trodd y Cymry'n derfysglyd iawn. Er mwyn llenwi'r bwlch arwisgwyd mab y brenin â'r 'Dywysogaeth' yn 1471. Ond roedd gan y Cymry a gefnogai plaid Iorc obeithion tebyg ar gyfer Edward IV a allai olrhain ei linach, fel Harri Tudur, yn ôl i dywysogion Cymru.
 
Yn [[Aberhonddu]] y cododd dug Buckingham faner gwrthryfel, o bosib, i hybu achos Harri Tudur, a oedd yn [[Llydaw]], ond ni chafodd gefnogaeth y Cymry, ac o fewn mis fe'i dienyddiwyd. [[William Stanley (Brwydr Bosworth)|William Stanley]] oedd gŵr grymusaf gogledd Cymru a [[Rhys ap Thomas]] (ŵyr [[Gruffudd ap Nicolas]] a Lancastriaid o fri) yn y De.