Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhyfeloedd y Rhosynnau"

Ychwanegwyd 2,166 beit ,  3 blynedd yn ôl
ehangu: Y ddwy ochr
(ehangu: Y ddwy ochr)
Yn [[Aberhonddu]] y cododd dug Buckingham faner gwrthryfel, o bosib, i hybu achos Harri Tudur, a oedd yn [[Llydaw]], ond ni chafodd gefnogaeth y Cymry, ac o fewn mis fe'i dienyddiwyd. [[William Stanley (Brwydr Bosworth)|William Stanley]] oedd gŵr grymusaf gogledd Cymru a [[Rhys ap Thomas]] (ŵyr [[Gruffudd ap Nicolas]] a Lancastriaid o fri) yn y De.
 
==Teyrngarwch y Cymry==
==Brwydrau Pwysig y Rhyfeloedd y Rhosynnau==
===Iorciaid===
Roedd iarllaeth Marcha Morgannwg, eiddo eu prif gefnogwr [[Richard Neville, 16ed Iarll Warwick]] yn derngar i blaid yr Iorc. Cefnogwyr: [[William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)|William Herbert]] (a gweddill Herbertiaid Rhaglan), [[Guto'r Glyn]], [[Rhisiart III, brenin Lloegr]] (1452 – 1485), [[Anne Neville]] (1456 – 1485), Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, Fychaniaid Tretŵr, [[Ralph de Mortimer]] (m. 1246), Syr [[Rosier Cinast ap Gruffudd o'r Cnwcin]] a'r [[Plantagenet]].
 
Roedd gan y Cymry a gefnogai plaid Iorc obeithion mawr ar gyfer Edward IV, brenin Lloegr, a allai olrhain ei linach, fel Harri Tudur, yn ôl i dywysogion Cymru. Disgynnai Anne Mortimer, mam Richard, dug Iorc a nain Edward IV a Rhisiart III, o [[gwladus ddu|Wladus Ddu ferch Llywelyn Fawr]], Tywysog Gwynedd, a briododd [[Ralph Mortimer]] (m. 1246). Cyfeiria [[Guto'r Glyn]] at hyn sawl gwaith yn ei gerdd, gan annog Edward IV i adfer trefn yng Nghymru a chan alw’r brenin yn 'darw mawr' o'r Mortmeriaid:
:Tarw fydd, llid torfoedd llydain, 
:Tro dy nerth at ryw dy nain! 
:O frenin costwin Castil 
:A Gwladus Du galw dy stil.
 
Cofiai'r Cymry, hefyd, fod sawl un o'r Mortimeriaid wedi cefnogi [[Owain Glyn D%C5%B5r#Y Gwrthryfel.2C 1400 - 1415|gwrthryfel Owain Glyn Dŵr]].
 
===Lancastriaid===
Roedd y Dywysogaeth ac arglwyddiaeth Siasbar Tudur ym Mhenfro yn derngar i blaid Lancastr; Siasbar oedd prif arweinydd y Lancastriaid yng Nghymru. Cefnogwyr: [[y Tuduriaid]], Syr [[Rhys ap Tomas]] o Abermarlais (1449 – 1525), Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral, Siôn Hanmer ap Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai, Gruffudd Fychan ap Gruffudd o [[Corsygedol|Gorsygedol]] a Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun, Gruffudd ap Nicolas, [[Margaret Beaufort]], [[Catrin o Valois]], [[John o Gaunt]] (1340-1399; mab Edward III, brenin Lloegr) [[Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby]] (1435 – 1504), Teulu'r Beaufort a [[Harri IV, brenin Lloegr|Harri IV, V a VI]] o Loegr.
 
Canodd rhai o feirdd y cyfnod, ee Dafydd Llwyd, gerddi darogan yn awgrymu mai Harri Tudur oedd [[y Mab Darogan]] a fyddai'n dod i wireddu gobeithion y Cymry fel cenedl.
 
==Brwydrau Pwysig ypwysicaf Rhyfeloedd y Rhosynnau==
{{Prif|Rhestr brwydrau Cymru}}