Brwydr Maes Bosworth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 15fed ganrif → 15g, [[File: → [[Delwedd: (6) using AWB |
ehangu'r diweddglo |
||
Llinell 105:
Tua 5,000 o filwyr oedd gan Harri - hanner y nifer ym myddin Richard. Roedd dros eu hanner yn ddynion Rhys ap Thomas. Roedd gan Harri lai na 1,000 o filwyr a oedd yn Saeson: tua 300 a oedd wedi dod o Ffrainc, tua'r un faint o ddynion Talbot, a'r gweddill wedi dianc o fyddin Richard yn ystod yr wythnosau cyn y frwydr. Roedd rhwng mil a 1,700 o filwyr Ffrengig, dan arweiniad Philibert de Chandée yno hefyd a nifer helaeth o Albanwyr gan gynnwys Bernard Stewart, Arglwydd Aubigny.{{sfn|Mackie|1983|p=51}}{{sfn|Major|1892|p=393}}
==Wedi'r drin...==
Yn dilyn y frwydr canodd y beirdd, gan gynnwys Guto'r Glyn a ganodd gywydd i Rhys ap Tomas o Abermarlais a'i ran ym muddugoliaeth Harri:
:Cwncwerodd y Cing Harri
:Y maes drwy nerth ein meistr ni:
:Lladd Eingl, llaw ddiangen,
:Lladd y baedd, eilliodd ei ben,
:A Syr Rys mal sŷr aesawr
:Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr.<ref>[http://www.gutorglyn.net/gutoswales/cy/ygad-rhyfelrhos-cymru.php gutorglyn.net;] adalwyd 4 Chwefror 2017.</ref>
Roedd nifer o noddwyr eraill Guto'r Glyn yn cefnogi Harri ac yn eu plith roedd Syr Water Herbert, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, Rhys ap Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn a mwy na thebyg yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell. Roedd Siôn Edward o Blasnewydd yno ym myddin Syr William Stanley, a chyfeiria Guto at y pryder amdano ac yntau wedi teithio i Loegr 'yn awr angen y baedd':
:Yn rhaid y baedd rhodiaw bu
:Yn Lloegr, ninnau'n llewygu;
:A Duw a'r saint a'i rhoes ef
:O'r frwydr, ef a'i wŷr, adref.
Gwobrwywyd llawer o gefnogwyr Cymreig, wedi'r frwydr, gan gynnwys Siasbar Tudur (Dug Bedford) a Rhys ap Thomas (marchog). Erbyn 1496 aeth y rhan fwyaf o swyddi cyhoeddus Cymru i ddwylo'r Cymry ac ehangodd eu cyfle yn Lloegr i ddal swyddi a gwneud gyrfa iddynt eu hunain yno. Dyrchafwyd hefyd lawer o Gymry'n esgobion a swyddi eraill yn yr Eglwys yng Nghymru; cafwyd esgobion Cymreig yn Nhyddewi (1496), Llanelwy (1500) a Bangor (1542). Daeth arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]] hefyd i ben ac erbyn 1509, tri'n unig oedd ar ôl: Buckinham (Brycheiniog a Chasnewydd), Charles Somerset (Cas-Gwent, Cruchywel, Rhaglan a Gŵyr) ac Edward Grey (rhan o Bowys).
==Gweler hefyd==
|