Rwmania: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu'r cyflwyniad
B s
Llinell 53:
Gwlad yn [[De Ddwyrain Ewrop|ne-ddwyrain Ewrop]] yw '''Rwmania''' ([[Rwmaneg]]: ''România''). Mae'n ffinio â [[Hwngari]] a [[Serbia]] i'r gorllewin a [[Bwlgaria]] i'r de, a'r [[Wcráin]] a [[Moldofa]] i'r gogledd a'r dwyrain.<ref>{{eicon en}} {{cite report|url= http://www.nato.int/invitees2004/romania/glance.htm|title=Romania at a glance|publisher=NATO|accessdate=5 Chwefror 2017}}</ref> Ffurfir y mwyafrif o'r goror rhwng Rwmania a Bwlgaria gan [[Afon Donaw]], sy'n arllwys i [[Aberdir y Donaw]] yn y fan mae morlin yn ne-ddwyrain Rwmania ar lannau'r [[Môr Du]]. Mae ganddi arwynebedd o {{convert|238391|km2|sqmi}} a hinsawdd gyfandirol a [[hinsawdd dymherus|thymherus]]. Rhed cadwyn dde-ddwyreiniol [[Mynyddoedd Carpathia]] trwy ganolbarth y wlad, gan gynnwys [[Copa Moldoveanu]] ({{convert|2544|m|ft|abbr=on}}).<ref>{{eicon en}} {{cite web|url=http://www.aboutromania.com/geography.html|title=Romania Geography|publisher=aboutromania.com|accessdate=5 Chwefror 2017 }}</ref>
 
Datblygodd y wlad fodern yn nhiriogaethau'r dalaith [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] [[Dacia]]. Unodd tywysogaethau [[Moldafia]] a [[WallachiaWalachia]] ym 1859 yn sgil y deffroad cenedlaethol. Rhoddid yr enw Rwmania ar y wlad yn swyddogol ym 1866, ac enillodd ei hannibyniaeth oddi ar [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] ym 1877. Ymunodd [[Transylfania]], [[Bukovina]] a [[Besarabia]] â [[Teyrnas Rwmania|Theyrnas Rwmania]] ar ddiwedd [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Brwydrodd Rwmania ar ochr [[yr Almaen Natsïaidd]] yn erbyn [[yr Undeb Sofietaidd]] yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]] tan iddi ymuno â'r Cynghreiriaid ym 1944. Cafodd y wlad ei meddiannu gan [[y Fyddin Goch]] a chollodd sawl tiriogaeth. Wedi'r rhyfel, trodd Rwmania yn weriniaeth sosialaidd ac yn aelod o [[Cytundeb Warsaw|Gytundeb Warsaw]]. Dymchwelwyd y drefn gomiwnyddol gan Chwyldro 1989, a newidodd Rwmania'n wlad ddemocrataidd a chanddi economi'r farchnad.
 
Tyfod economi Rwmania yn gyflym ar ddechrau'r 2000au, a bellach mae'n seiliedig yn bennaf ar [[diwydiant trydyddol|wasanaethau]] ac hefyd yn cynhyrchu ac allforio peiriannau ac ynni trydan. Ymaelododd â [[NATO]] yn 2004 a'r [[Undeb Ewropeaidd]] yn 2007. Trigai tua 20&nbsp;miliwn o bobl yn y wlad, a bron i 2&nbsp;miliwn ohonynt yn y brifddinas [[Bwcarést]].<ref name="insse.ro">{{eicon ro}} {{cite web|url=http://www.insse.ro/cms/files/statistici/comunicate/com_anuale/populatie/PopRez2014r.pdf |title=POPULAŢIA REZIDENTĂ1 |publisher=Sefydliad Ystadegau Cenedlaethol Rwmania |accessdate=5 Chwefror 2017 }}</ref> Rwmaniaid, un o'r [[cenhedloedd Lladinaidd]], yw mwyafrif y boblogaeth a siaradent [[Rwmaneg]] ac yn [[Eglwys Uniongred Ddwyreiniol|Gristnogion Uniongred Dwyreiniol]]. Ceir lleiafrifoedd o dras [[Hwngari|Hwngaraidd]] a [[Roma]].