Brwydr Maes Bosworth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Wedi'r drin...: William Gruffudd
Llinell 129:
Gwobrwywyd llawer o gefnogwyr Cymreig, wedi'r frwydr, gan gynnwys Siasbar Tudur (Dug Bedford) a Rhys ap Thomas (marchog). Erbyn 1496 aeth y rhan fwyaf o swyddi cyhoeddus Cymru i ddwylo'r Cymry ac ehangodd eu cyfle yn Lloegr i ddal swyddi a gwneud gyrfa iddynt eu hunain yno. Dyrchafwyd hefyd lawer o Gymry'n esgobion a swyddi eraill yn yr Eglwys yng Nghymru; cafwyd esgobion Cymreig yn Nhyddewi (1496), Llanelwy (1500) a Bangor (1542). Daeth arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]] hefyd i ben ac erbyn 1509, tri'n unig oedd ar ôl: Buckinham (Brycheiniog a Chasnewydd), Charles Somerset (Cas-Gwent, Cruchywel, Rhaglan a Gŵyr) ac Edward Grey (rhan o Bowys).
 
Ymhlith y rhai dderbyniodd anrhydeddau neu nawdd roedd ei dad gwyn, Thomas Stanley, a dderbyniodd faenorau yn Fflint, Caer a Warwick. Gwnaed Rhys ap Thomas yn Farchog ac yn Siambrlaen De Cymru a'i ewyrth Siasbar yn Arglwydd Brif Ustus De Cymru ac Adam ap Jevan ap Jenkins yn Dwrnai'r Brenin yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi. Gwobrwywyd hefyd lawer o Gymry a ymunodd â Harri ar eu taith drwy Gymru, gan gynnwys: Morris Lloyd, Owen Lloyd (Cwnstablaeth Castell Aberteifi) ac [[William Gruffudd]] (William Griffith) yn Siambrlaen Gogledd Cymru a William Stanley (perthynas teulu'r Stanley) yn Arglwydd Brif Ustus Gogledd Cymru. Gwobrwywyd meddyg Elizabeth Woodville, sef [[Lewis o Gaerleon]] a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon rhwng Elizabeth a Margaret Beaufort, mam Harri, gyda nawdd blynyddol o £40.
 
Derbyniodd y canlynol hefyd roddion a gwobrau: Rhydderch ap Rhys, Maurice ap Owen a Richard Owen (Stiwardiaeth Cydweli), Rhys ap llywelyn ap Hulkyn (Statws 'Sais'); rhoddwyd rhodd i un o brif filwyr Harri a fu gydag ef ar hyd y daith o Lydaw, sef yr Albanwr Alexander Bruce. Gwobrwywyd dros 400 o bobl yn ystod y blynyddoedd dilynol.