Brigantes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Brigantia
Llinell 3:
Llwyth Celtaidd yng ngogledd [[Lloegr]] oedd y '''Brigantes'''. Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn dros y rhan fwyaf o Ogledd Lloegr a rhan o Ganolbarth Lloegr. Ceir yr enw ''[[Brigantium]]'' mewn nifer o leoedd ar y cyfandir, er enghraifft y ''Brigantii'' yn ardal [[yr Alpau]].
 
Ymddengys na fu gwrthdrawiad rhwng y Brigantes a'r Rhufeiniaid yng ngyfonod cynnar y goncwest Rufeinig, ond yn [[47]], bu raid i lwyodraethwrlywodraethwr Prydain, [[Publius Ostorius Scapula]], roi'r gorau i'w ymgyrch yn erbyn y [[Deceangli]] yng ngogledd-ddwyrain Cymru oherwydd helynt ymysg y Brigantes. Pan orchfygwyd [[Caradog]] gan y Rhufeiniaid mewn brwydr yn nhiriogaeth yr [[Ordoficiaid]] yn [[51]], aeth at [[Cartimandua]], brenhines y Brigantes, i geisio nodded. Trosglwyddodd Cartimandua ef yn garcharor i'r Rhufeiniaid.
 
Yn y cyfnod yma, roedd Cartimandua a'i gŵr [[Venutius]] yn ochri gyda'r Rhufeiniaid, ond wedi iddynt ysgaru, trodd Venutius yn erbyn ei wraig a Rhufain. Cafodd Cartimandua gefnogaeth y Rhufeiniaid, ond cymerodd Venutius fantais ar helyntion [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]] yn [[69]] i yrru ei wraig o'r orsedd.
 
Wedi i [[Vespasian]] ddod yn ymerawdwr, daeth [[Quintus Petillius Cerialis]] yn llywodraethwr Prydain, a dechreuodd ef ymgyrch yn erbyn y Brigantes. Ymddengys i goncwest lwyr gymeryd blynyddoedd lawer., ond erbyn i [[Mur Antoninus|Fur Antoninus]] gael ei godi tua'r flwyddyn [[140]] roedd tiriogaeth y Brigantiaid yn cael ei rheoli'n llwyr gan y Rhufeiniaid.
 
Prif [[duwies|dduwies]] y Brigantiaid oedd [[Brigantia]]. Ceir sawl arysgrif ddefodol ar diriogaeth y llwyth sy'n dwyn ei henw, e.e. ar gerflun o gaer [[Birrens]].
 
[[Categori:Llwythau Celtaidd]]