Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Grenada"

Ychwanegwyd 922 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
Hanes
(poblogaeth a ballu)
(Hanes)
 
Mae'r ynys yn enwog am ei [[sbeis]]iau, yn enwedig [[nytmeg]].
 
[[Delwedd:StGeorgesGrenada2000.jpg|250px|chwith|bawd|St. George's, prifddinas Grenada.]]
 
==Hanes==
Ffurfiwyd Grenada o [[Llosgfynydd|losgfynydd]] tanddwr dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl. Cyn dyfod Ewropeaid, gwladychwyd yr ynys gan y Caribs, wedi iddynt ymlid yr Arawaks oddi yno. Cafodd Christopher Columbus gip o'r ynys ar ei ffordd i'r Byd Newydd yn 1498.
 
Cyrhaeddodd 203 o Ffrancwyr o'r Martinique yn 1649, dan arweiniad Jacques du Parquet gan aros yma. Bu brwydro yn erbyn y brodorion hyd at 1654, pan oresgynwyd yr ynys yn gyfangwbwl gan y Ffrancwyr. Tiriogaeth Ffrengig ydoedd, felly rhwng (1649–1763).
 
Rhwng 1763–1974 disodlwyd y Ffrancwyr gan Saeson, a rhoddwyd stamp ar hynny yng Nghytundeb Paris yn 1763. Ailfeddianwyd yr ynys gan y Ffrancwyr yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth America]], gyda'r Ffrancwr Comte d'Estaing yn llwyddo ar y tir a'r 'Frwydr y Llynges Dros Grenada' yng Ngorffennaf 1779. Fodd bynnag, dychwelwyd yr ynys i Brydain yng [[Cytundeb Versailles|Nghytundeb Versailles]], 1783.