Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thomani9 (sgwrs | cyfraniadau)
Cywirwyd y gramadeg
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Thomani9 (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Darganfyddiadau archaeolegol: Cywirwyd y camdeipio
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 7:
Darganfuwyd yno fwyeill llaw o [[Hen Oes y Cerrig]], dannedd [[blaidd|bleiddiaid]] ac esgyrn [[Arth frown|eirth]].
 
Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd [[sgerbwd]] corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Dynes Goch Pen-y-FaiPafiland". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac [[archaeoleg]]ydd cynnar [[William Buckland]] yn [[1823]] yn Ogof Twll yr Afr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch ydoedd ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21-25 oed ydyw.<ref>Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 18 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai dyn 25 oed sydd yma.</ref> Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ''ocr'' coch, er mwyn ei amddiffyn rhag pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (''Homo sapiens sapiens'') hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn [[Ewrop]] i gyd. Cafwyd [[penglog]] [[mamoth]] yn ei ymyl ond mae hynny ar goll erbyn hyn.
 
Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen [[callestr]], sydd efallai i'w dyddio i'r [[cyfnod Aurignasiaidd]].