Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 38:
Mae'r Llyfrgell ar agor chwe diwrnod yr wythnos ac mae mynediad i'r holl arddangosfeydd am ddim. Gellir gweld nifer o gasgliadau diddorol y Llyfrgell ar eu gwefan o dan y pennawd 'Trysorau'.<ref>[http://www.llgc.org.uk/drych/index_c.htm Trysorau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru]</ref> Ar 26 Ebrill 2013, cafwyd tân yn atic estyniad y Llyfrgell newydd.<ref>[http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/107331-llyfrgell-genedlaethol-ar-gau-yn-dilyn-tan golwg 360, "Llyfrgell Genedlaethol ar gau yn dilyn tân", adalwyd 27 Ebrill 2013]</ref> Gwacäwyd yr holl staff o'r adeilad a bu'r frigad dân wrthi'n ddyfal yn diffodd y tân.
 
==Agor y drysau digidol Linda Thomas ==
[[Delwedd:Llyfrgell Genedlaethol National Library of Wales 04.JPG|bawd|chwith|Dr Dafydd Tudur yn derbyn Tlws GLAM y Flwyddyn, Wicimedia DU, 2013 ar ran y Llyfrgell]]
Yn Ebrill 2012, gwnaed penderfyniad polisi blaenllaw iawn: nad oedd y Llyfrgell yn hawlio perchnogaeth yr hawlfraint mewn atgynhyrchiadau digidol. Golygai hyn fod yr hawliau sydd ynghlwm wrth gweithiau'n adlewyrchu statws hawlfraint y gwaith gwreiddiol (h.y. fod y gweithiau gwreiddiol sydd yn y parth cyhoeddus (e.e. lluniau ar Flickr) i barhau yn y parth cyhoeddus yn eu ffurf digidol. Mae'r llyfrgell wedi cymhwyso'r polisi hwn i brosiectau ers hynny gan gynnwys '[[DIGIDO]]', [[Prosiect Cylchgronau Cymru]]<ref name="Cylchgronau Cymru">[http://cylchgronaucymru.llgc.org.uk Cylchgronau Cymru]</ref> a 'Cymru 1914'. Mae'r Llyfrgell hefyd yn parhau i ddiweddaru gwybodaeth am hawliau prosiectau a gwbwlhawyd cyn 2012, sy'n waith aruthrol, oherwydd y cyfoeth o weithiau sydd yn y Llyfrgell. Mae prosiect Cylchgronau Cymru<ref name="Cylchgronau Cymru"/> yn cynnwys 50 o gyfnodolion digidol am Gymru, sydd bellach ar gael am ddim i bawb ac sy'n cynnwys: [[Y Cofiadur]], [[Y Fflam]] a'r cylchgrawn [[Heddiw (cylchgrawn)|Heddiw]].