Mynydd Twr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
}}
 
'''Mynydd Twr''', pwynt uchaf [[Ynys Gybi]], yw bryn uchaf [[Ynys Môn]]. Mae'n gorwedd tua 3 km i'r gorllewin o dref [[Caergybi]], gan godi'n syth o [[Môr Iwerddon|Fôr Iwerddon]] ar ddwy ochr. Ar ei ochr ddwyreiniol ceir tŵr gwylio, neu [[goleudy|oleudy]], o'r enw Caer y Twr, sy'n perthyn i [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|gyfnod y Rhufeiniaid]]. Yn ogystal ceir grŵp o gytiau wedi eu hamgylchynu gan fur sy'n dyddio i [[Oes yr Haearn]]. Chwarelwyd y cerrig ar gyfer morglawdd Caergybi o'r mynydd yn ogystal.
 
Mae'n naturiol i siaradwyr Cymraeg feddwl mai "Mynydd (y) Tŵr" yw'r ffurf gywir ar yr enw, ond camgymeriad yw hynny. Mae'r gair ''twr'' yma yn golygu "tomen, cruglwyth" (ail elfen y gair "pen''twr''") ac yn cyfeirio at y ''twr'' o gerrig neu garnau ar ben y mynydd.<ref>Melville Richards, 'Enwau lleoedd', ''Atlas Môn'' (Cyngor Gwlad Môn, 1972).</ref> ''Holyhead Mountain'' yw'r enw yn Saesneg.