Ynys Gybi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: 200px|bawd|[[Mynydd Twr yw pwynt uchaf Ynys Gybi a Môn]] Ynys oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw '''Ynys Gybi''' (Saesneg: ''H... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:50, 2 Tachwedd 2007
Ynys oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw Ynys Gybi (Saesneg: Holy Island. Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu 1.8 milltir sgwar. Fe'i henwir ar ôl Sant Cybi, nawddsant Caergybi. Ceir nifer sylweddol o safleoedd hynafol ar yr ynys, yn feini hirion, siambrau claddau a chytiau'r Gwyddelod a safleoedd cysylltiedig â Christnogaeth gynnar. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae gan Ynys Gybi boblogaeth o 13,579.
Daearyddiaeth
Y dref fwyaf ar yr ynys yw Caergybi, sy'n borthladd pwysig ers canrifoedd a lleoliad yr harbwr ar gyfer y llongau fferi i Iwerddon.
Ceir nifer o glogwynni ar hyd yr arfordir gorllewinol gydag ynysoedd bychain fel Ynys Lawd, gyda'i goleudy enwog. Cafwyd nifer o londdrylliadau dros y blynyddoedd.
Cludiant
Cysylltir Ynys Gybi â thir mawr Môn gan sarnau sy'n dwyn y briffordd A5/A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n cysylltu Caergybi â Chaer a Llundain, a phont wreiddiol yr hen ffordd doll (A5). Yn ogystal ceir Four Mile Bridge a groesir gan ffordd 'B' ac sy'n llawer llai.
O Gaergybi mae gwasanaethau fferi ar gael i Dún Laoghaire a Dulyn, yn Iwerddon.
Gorwedd tua 30 milltir o Llwybr Arfordirol Ynys Môn (125 milltir) ar Ynys Gybi.