Mynydd Twr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
}}
 
'''Mynydd Twr''', pwynt uchaf [[Ynys Gybi]], yw'r bryn uchaf ym [[Ynys Môn|Môn]]. Mae'n gorwedd tua 3 km i'r gorllewin o dref [[Caergybi]], gan godi'n syth o [[Môr Iwerddon|Fôr Iwerddon]] ar ddwy ochr. Ar ei ochr ddwyreiniol ceir tŵr gwylio, neu [[goleudy|oleudy]], sy'n perthyn i [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|gyfnod y Rhufeiniaid]]. Yn ogystal ceir grŵp o gytiau wedi eu hamgylchynu gan fur sy'n dyddio i [[Oes yr Haearn]]. Chwarelwyd y cerrig ar gyfer morglawdd Caergybi o'r mynydd yn ogystal.
 
Mae'n naturiol i siaradwyr Cymraeg feddwl mai "Mynydd (y) Tŵr" yw'r ffurf gywir ar yr enw, ond camgymeriad yw hynny. Mae'r gair ''twr'' yma yn golygu "tomen, cruglwyth" (ail elfen y gair "pen''twr''") ac yn cyfeirio at y ''twr'' o gerrig neu garnau ar ben y mynydd.<ref>Melville Richards, 'Enwau lleoedd', ''Atlas Môn'' (Cyngor Gwlad Môn, 1972).</ref> ''Holyhead Mountain'' yw'r enw yn Saesneg.
 
===Caer y Twr===
Ar ben Mynydd y Twr ceir bryngaer neu bentref caerog a elwir yn Gaer y Twr. Mae'n dyddio i tua'r [[2il ganrif]] OC ac yn amgau tua 17 acer o dir. Garw ac anwastad yw'r tir oddi mewn a does dim olion o'r cytiau heddiw. Ceir [[cae]]au bychain ar ffurf terasau i'r gogledd-orllewin, tu allan i'r gaer. Mae'r mur amddiffynnol i'w gweld ar ei orau ar yr ochr ogleddol, gyda thrwch o 13 troedfedd a mur allanol sy'n cyrraedd 19 troedfedd o uchder gyda cerddedfa i'r amddiffynwyr tua llathen yn uwch na'r llawr mewnol.<ref>Katherine Watson, ''North Wales'' yn y gyfres 'Regional Archaeologies' (Cory, Adams & Mackay, 1965).</ref>
 
===Hamdden===
Mae Mynydd y Twr yn denu nifer o ymwelwyr, yn arbennig yn yr haf. Tuag 1 filltir i'r gorllewin ceir goleudy [[Ynys Lawd]] a daw nifer o bobl i weld yr adar sy'n nythu ar hyd y clogwynni rhwng Ynys Lawd a Mynydd y Twr.
 
===Cyfeiriadau===