Richard Trefor (1558 - 1638): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Cyflwynwyd ef i'r Senedd yn 1597 gan Howard o Effingham - dros un o'i fwrdeisdrefi, yn dâl am wasanaeth a roes Trefor fel dirprwy-raglaw yn Sir Ddinbych (1596) yn codi milwyr ar gyfer ymgyrch Howard ac Essex ar Cadiz. Capteiniaid eraill Essex oedd yr uchelwyr John Salusbury, [[Rhug]] a John Lloyd, Bodidris. Bu i fab John Lloyd ac un o ferched Trefor briodi ei gilydd. Yn 1598 arweiniodd lu Gogledd Cymru i [[Caer|Gaer]] yn barod i'w hanfon i Iwerddon ond cyrhaeddodd Gaer heb y nifer cyflawn a ofynwyd amdano o sir Ddinbych; y rheswm dros y diffyg yn y niferoedd oedd iddo wrthod derbyn y milwyr newydd a gasglwyd ynghyd gan bleidwyr teulu [[Llewenni]]. Ceisiodd aelodau teulu Llewenni atal Trefor rhag codi milwyr yn Sir Ddinbych i ymladd dros Essex yn Iwerddon. Bu ysgarmes waedlyd yn Rhuthyn yn 1600 rhwng y ddwy ochor, y ddau deulu. Yn 1601 casglodd Trevor gynorthwywyr lleol gyda'r bwriad o geisio am y tro olaf ennill sedd seneddol y sir, ond methiant fu'r ymdrech ond plaid Llewenni a orfu.
 
Cymerwyd y swydd o ddirprwy-raglaw oddi wrtho a throdd at ymgyfreithio yn Llys Ystafell y Seren mewn achosion yn ymwneud â'r gwaith codi milwyr yn 1596 a 1600 ac etholiad 1601. Dychwelodd i Iwerddon lle bu rhwng 1603-6, yn bennaeth 50 o wŷr traed ac wedi hynny, 25 o wŷr meirch yng ngwarchodlu [[Newry]].<ref>Yn ôl y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein, bu'n "bennaeth 50 o wŷr traed , ac, wedi hynny, 25 o wŷr meirch yng ngwarchodlu Newry". Ond, ar ei feddrod yn Eglwys yr Holl Saint, Greffordd, dywedir iddo fod yn "bennaeth ar 100 o wŷr traed ac wedi hynny, 50 o wŷr meirch".</ref>
 
== Treforiaid Trefalun ==