Richard Trefor (1558 - 1638): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Treforiaid Trefalun: trefn cronolegol
dolen
Llinell 2:
Tirfeddiannwr pwerus, gwleidydd a milwr oedd Syr '''Richard Trefor''' (1558 - 1638), Trefalun (neu 'Drefalyn'), [[Maelor]], (Sir Ddinbych yn y cyfnod hwnnw). Ef oedd mab hynaf [[Sion Trefor (m. 1589)]]; ef hefyd oedd etifedd Ystâd Trefalun pan fu farw ei dad yn 1589. Fel gweddill ei frodyr, ei noddwr oedd Howard o Effingham (sef [[Charles Howard, Iarll 1af Nottingham]]), yr arglwydd-lyngesydd, a'i gwnaeth ef yn is-lyngesydd yng Ngogledd Cymru yn 1596.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-TREV-TRE-1500.html Y Bywgraffiadur Arlein;] Gwefan [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].</ref> Heriai uwchafiaeth teulu [[Teulu Salusbury|Salusbury Lleweni]] a theulu Almer ([[Dorset]]).
 
Priododd Catrin, merch Roesier Puleston o Emral a chawsant bedair o ferched. Oherwydd hynny, trosglwyddwyd Ystad Trefalun i'w nai, y Piwritan Syr [[John Trevor (1596–1673)]].
 
Bu'n gwasanaethu yn [[Iwerddon]] rhwng 1595-8, lle gwnaed ef yn farchog ac yn arglwydd-ddirprwy ar 8 Mai 1597; bu'n Weinyddwr militaraidd yr ynys ac yn gapten y milwyr hynny a godid yn Sir Ddinbych. Yn 1602 gwnaed ef yn aelod o [[Cyngor Cymru a'r Gororau|Gyngor Cymru a'r Gororau]]. Rhwng 1596 a 1626 roedd yn Is-Lyngesydd Gogledd Cymru.