Batafiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ceir cyfeiriad atynt gan [[Iŵl Cesar]] yn ei lyfr ''[[Commentarii de Bello Gallico]]'', lle dywed eu bod yn byw ar ynys a ffurfiwyd lle mae Afon Rhein yn ymrannu yn nifer o afonydd, yn cynnwys y [[Waal]] a'r [[Nederrijn]] (Rhein Isaf). Ceir cyfeiriadau pellach atynt gan yr haneswyr Rhufeinig [[Tacitus]] a [[Suetonius]].
 
Roeddynt mewn cynghrair a'r Rhufeiniad yng nghanol y ganrif gyntaf, ac yn darparu milwyr cynorthwyol a gymerodd ranmewn llawer o ymgyrchoedd y Rhufeiniaid, yn cynnwys concwst Prydain o [[43]] OC ymlaen. Yn ystod [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]] ([[69]] OC), gwrthryfelodd y Batafiaid yn erbyn Rhufain dan [[Gaius Julius Civilis]]. Gallasant ddinistrio rhai llengoedd Rhufeinig a pherswadio llengoedd eraill i ochri gyda hwy yn erbyn Rhufain. Wedi i [[Vespasian]] ddod yn ymerawdwr, gyrrwyd byddin dan [[Quintus Petillius Cerialis]] i roi terfyn ar y gwrthryfel.
 
Yn ystod cyfnod [[Ymerodraeth yr Iseldiroedd]], "Batavia" oedd enw'r ddinas sy'n awr yn [[Jakarta]], prifddinas [[Indonesia]]. Efallai fod [[Betuwe]], ardal yn nhalaith [[Gelderland]] yn yr Iseldiroedd, wedi ei enwi ar ôl y Batafiaid.