Super Furry Animals: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B treiglada, replaced: yn [[C → yng [[Ngh (2) using AWB
Llinell 20:
}}
 
Band roc arbrofol o [[Cymru|Gymru]] yn canu yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] a'r [[Saesneg]] yw '''Super Furry Animals''', adnabyddir hwy hefyd odan y byrenwau '''Super Furries''' neu '''SFA'''. Mae'r band wedi ei ffurfio o weddillion [[Ffa Coffi Pawb]] a oedd yn cynnwys [[Gruff Rhys]] a [[Dafydd Ieuan]] fel aelodau gwreiddiol. Maent yn enwog yng Nghymru am yr albwm ''[[Mwng (albwm)|Mwng]]'' [http://www.mwng.co.uk] sef y cryno ddisg mwyaf llwyddianus o ran gwerthiant erioed ynyng [[CymraegNghymraeg|yr iaith Gymraeg]].
 
==Gyrfa==
Llinell 33:
Ers y cychwyn mae'r SFA wedi gweithio'n ddi-ddiwedd i sicrhau bod eu cerddoriaeth yn cyrraedd y gynulleifa fwya posib - gan deithio bob man ar draws y byd ac ymddangos ar bob rhaglen deledu o Top of the Pops i Richard and Judy. Yn ôl Gruff, "does gan y grŵp ddim problem efo chwarae'r gêm yma".
 
Mae'r gêm yn cynnwys cludo tanc ffyri i wyliau roc, uniaethu efo [[Howard Marks]] - gwerthwr cyffuriau mwya'r byd, creu cymeriadau awyr anferth, chwarae gigs roc sy'n troi'n naturiol mewn i rêfs ecstatig, saethu fideos pop ynyng [[ColombiaNgholombia]], noddi clwb pêl-droed, chwarae trwy systemau sain quadraphonic, recordio sengl sy'n cynnwys mwy o regfeydd nag unrhyw record erioed o'r blaen, a rhyddhau albym yn y Gymraeg sy'n cyrraedd y siartiau Prydeinig.
 
Fel grŵp maen nhw wedi swyno'r wasg a'r gynulleidfa efo'u Cymreictod naturiol a'u gallu i wyrdroi'r hen drefn ddiflas o fod mewn band, gyda deallusrwydd ac arddulliau o'r byd celf.
Llinell 39:
Rhyddhawyd yr albwm diweddaraf, ''Dark Days, Light Years'' yn 2009 (Rough Trade Records) ac ers hynny mae'r band wedi canolbwyntio ar waith unigol gyda Gruff Rhys yn arbennig o weithgar yn rhyddhau nifer o albymau fel ''CandyLion'' a ''Hotel Shampoo'' a'i brosiect llwyddiannus Neon Neon. Bu sibrydion fod y band wedi chwalu ond mae yna obaith y bydd SFA yn dychwelyd unwaith eto gydag albwm newydd yn y dyfodol agos.
 
Does na ddim byd sy'n arferol am y Super Furry Animals er bod eu credo yn un syml, yn ôl Gruff: "da ni'n obsessed efo miwsic a jest isio creu albyms ffantastic".
 
== Disgograffi ==