Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Blew"

Ychwanegwyd 26 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
treiglada using AWB
B (canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (2) using AWB)
B (treiglada using AWB)
Cynhalwyd gig arloesol yn neuadd [[Talybont]] ym Mhasg 1967. Er mwyn cael yr offer i ddatblygu ymhellach, bu'n rhaid i'r band benthyca swm sylweddol o arian.
 
Trefnwyd sawl taith lwyddianus yn fan y grŵp a elwid ''y Blewfan'' yn ystod ''‘Summer of love’'' 1967. Fe chwareodd Y Blew dros 50 o gigs mewn 8 mis gan gynnwys ymweliad â'r [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn [[y Bala]]. Recordiwyd ''Maes B'', eu hunig ddisg, yn ystod yr haf hwnnw.
 
[[Delwedd:Y Blew 1967 - Alcwyn Deinoil Evans.jpg|bawd|200px|Y Blew - ffoto drwy garedigrwydd Alcwyn Deiniol Evans]]
Yn 1960au roedd diwylliant Gymraeg yn dal dan ddylanwad traddodiad canu capel a nosweithiau llawen, heb adlewyrchu ffasiynau modern y genhedlaeth ifanc - a oedd yn dilyn y bwrlwm cyffroes y byd pop Eingl-Americanaidd.
Yn dilyn sefydlu [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]] bu twf yn yr ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a dechreuodd cyfnod o brotestio dros wella statws a sefyllfa'r Gymraeg, a gwelwyd canu modern yn rhan o'r ymgyrch honno.
 
Roedd rhai'n credu fod moderneiddio'r diwylliant Cymraeg hwnnw'n annorfod, moderneiddio er mwyn bod yn berthnasol i’r genhedlaeth newydd - y tu hwnt i’r cefnogwyr traddodiadol.
 
''Nod y Blew oedd cyrraedd y Cymry Cymraeg a Di-gymraeg nad oeddent yn genedlaetholwyr, dechrau 'Scene' Cymraeg ymysg y rhai hollol anwleidyddol oedd y gobaith''. yn ôl Dafydd Evans un o’r sylfaenwyr Y Blew. <ref name="Hanes y Blew 1986 14">{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=14}}</ref>
 
Fe geisiodd Maldwyn Pate trefnu grŵp trydanol i ganu yn Gymraeg gyda chyd fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth. Enw'r band oedd ‘Y Pedwar Cainc’ - Dafydd Evans, Maldwyn Pate (aelodau’r Blew yn nes ymlaen) gyda Hefin Elis (aelod o [[Edward H. Dafis]] nes ymlaen) a Geraint Griffiths (aelod o [[Eliffant]] ac [[Injaroc]] nes ymlaen). Perfformiodd y band unwaith yn unig, yn Eisteddfod Aberafan 1966, ond nid oedd y gynulleidfa'n barod am gerddoriaeth roc yn Gyrmaeg am yn eu bwio. <ref name="Hanes y Blew 1986 4">{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=4}}</ref>
 
Y flwyddyn ganlynol fe ffurfiodd ‘’Y Blew’’ yn wreiddiol gyda Maldwyn Pate (llais), Dafydd Evans (gitâr fâs), [http://en.wikipedia.org/wiki/Rick_Lloyd Rick Lloyd] (gitâr) a Geraint Evans (Drymiau). Ymunodd Dave Williams (Allweddellau) yn ddiweddarach.
Roedd trefniadau'r daith yn hollol broffesiynol: llogwyd byrddau hysbysebu enfawr a dosbarthwyd miloedd o daflenni yn cyhoeddi "Mae'r Blew yn dod".
Mae rhai o'r memorobilia hyn i'w gweld yn yr arddangosfa newydd yn y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn Aberystwyth.<ref>[http://canmlwyddiant.llgc.org.uk/cy/XCM1967/book/2/1/1.html Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol;] adalwyd 5 Awst 2014</ref>
Bu’r nosweithiau’n llwyddiannus iawn, yn aml fe ddaeth holl bobl ifanc yr ardal i weld y ffenomenon yn eu pentref. Yn dilyn un gig fe ddarganfu’r band negeseuon mewn lipstic dros eu fan a ysgrifennwyd gan ferched oedd wedi bod yn y noson. <ref>{{harvnb| name="Hanes y Blew| 1986|p= 4}}<"/ref>
 
Doedd dim amser cyfansoddi 25 o ganeuon newydd sbon ar gyfer y teitihau felly fe gyfieithwyd caneuon llwyddiannus cyfoes.
 
==Eisteddfod Bala, 1967==
Ni fentrodd teithiau'r band i'r gogledd o [[Corris|Gorris]], er i grwpiau pop a roc Saesneg eu hiaith chwarae'n gyson mewn nifer fawr o neuaddau, caffis a chlybiau trwy ogledd Cymru ar hyd y 1960au. Teimlodd Y Blew nad oedd y gogleddwyr yn barod am roc Cymraeg trydanol neu am newid yr arfer o [[noson lawen|nosweithiau llawen]] traddodiadol gyda cherddoriaeth acwstig gwerin fel [[Dafydd Iwan]] a [[Tony ac Aloma]] a grwpiau 'hogia' fel [[Hogia Llandegai]] a [[Hogia’r Wyddfa]]. Unig berfformiad Y Blew yn y gogledd oedd yn ystod [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967]]. Roedd Maes yr Ŵyl wedi’i rhannu'n sawl rhan, Maes A, Maes B a Maes C ayb… gyda’r bobl ifanc yn gwersylla ar ‘Maes B’ ble perfformiodd y Blew gan ddod ag ysbryd a llawenydd y diwylliant newydd siecadelig. <ref name="Hanes y Blew 1986 8">{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=8}}</ref>
 
==Diwedd y grŵp==
Perfformiodd y band hyd at Nadolig 1967 ond fe roddwyd y gorau iddi cyn diwedd y flwyddyn ac fe wasgarodd yr aelodau; aeth y canwr Maldwyn Pate i fyw i [[Efrog Newydd]] lle gweithiodd fel [[coreograffi|coreograffydd]]. Aeth Richard Lloyd yn aelod o’r grwp y [http://en.wikipedia.org/wiki/The_Flying_Pickets Flying Pickets] a gyrhaeddod rhif un yn siartiau Prydain gyda ‘'Only You’’ dros Nadolig 1983. <ref>{{harvnb| name="Hanes y Blew| 1986|p= 14}}<"/ref>
 
Ar ôl i’r Blew chwalu fe gymerodd hi 5 mlynedd i’r band roc trydanol nesaf i’w ffurfio: [[Brân]] ac yna [[Edward H. Dafis]] tua 1972-3.
 
<blockquote>''Rwy’n credu ei fod e wedi cymered amser i’r geiniog syrthio. Roedd ‘ethos’ y Cymry Cymraeg - Perlau Taf, Y Pelydrau.. dyna fath o beth oedd yn mynd ar y pryd'' - Dafydd Evans mewn cyfweliad ym 1986. <ref>{{harvnb| name="Hanes y Blew| 1986|p= 14}}<"/ref></blockquote>
 
==Y Sengl ''Maes B''==
[[Delwedd:Y_Blew_Record_Sengl_Maes_B_1967.jpg |bawd|chwith|Clawr sengl Maes B, Y Blew]]
Gwahoddwyd Y Blew i recordio sengl gyda [[Recordiau Cambrian]] a oedd yn arfer rhyddhau cerddoriaeth corau a chanu ysgafn ond roedd y band o'r farn nad oedd offer recordio un trac y cwmni'n addas. Fe benderfynon dderbyn cynnig cwmni [[Qualiton]], Pontardawe, gan eu bod yn gallu cynnig stiwdio gyda mwy o draciau BBC Abertawe. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=12}}</ref>
 
Er i deitl y gân ddathlu dyfodiad siecadelia i Faes B yr Eisteddfod, nid yw geiriau'r gân yn cyfeirio at faes yr Eisteddfod. Mae geiriau'r gân yn adlewyrchu ffasiwn seicedelig 1967 gyda llinellau fel ''pam 'na nei di ddod 'da fi i weld y tylwyth teg a chael clywed cloc y dref yn taro tair ar ddeg''. <ref>{{harvnb| name="Hanes y Blew| 1986|p= 8}}<"/ref> Fe'i hsgrifennwyd y noson gynt, y dôn gan Dave Williams (Allweddellau) gydag ambell awgrym gan Maldwyn Pate. Y dylanwad mwyaf ar Dave Williams ar y pryd oedd sŵn [[Tamla Motown]] sydd i'w clywed yn glir ar y drymio.
 
Recordiwyd y cyfan, yn cynnwys yr ail ochr, mewn ychydig o oriau gan fod y band ar frys i gyrraedd [[Aberystwyth]] i chwarae dwy gig y noson honno (un yn Neuadd y Dref a'r llall yng Ngwesty'r Marine). Nid oedd y drymiwr wedi ei clywed Maes B, nes iddo gyrraedd y stiwdio. Ar y recordiad fe glywir Pate yn canu 'edrych ar y snos' yn lle 'nos', ond nid oedd amser i'w gywiro.
Credir i tua 2,000 o senglau cael eu gwasgu. Ni chafodd y gân fawr o chwarae ar y radio, prin oedd y Gymraeg i’w chlywed gyda’r gwasanaethau radio wedi'u lleoli yn Llundain ar yr adeg honno. Fe adolygwyd Maes B ar raglen panel yn trafod recordiau newydd eu rhyddhau ar BBC Radio 1 (fe lansiwyd Radio 1 yn fis Hydref 1967 mis cyn rhyddhau ''Maes B'') ond roedd y panelwyr o dan yr argraff bod canu yn Gymraeg yn ddim ond rhyw fath o gimig gwerthu.
 
Meddai Dafydd Evans ''Fe wnaethon nhw werthu'n dda yn Ne Cymru; doedden ni ddim wedi perfformio yn y gogledd felly roedd y gwrthiant yn is''. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=13}}</ref>
[[Delwedd:The_Second_Album_(The_Spencer_Davis_Group_album).jpg|bawd|chwith|100px|Clawr Spencer Davis]]
 
* ''You Must Believe Me'' - '''The Impressions''' ar YouTube [http://www.youtube.com/watch?v=JAA6EcrikIY]
* ''Second Album'' - '''The Spencer Davis Group''' ar YouTube [http://www.youtube.com/watch?v=3YS8qQ1KfpM]
 
* Mae’r gân ‘’Maes B’’ ar gael ar CD ‘’’Degawdau Roc (1967-82)’’ Recordiau Sain, 2004, SCD2376 [http://www.sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd-2376]
 
==Llyfryddiaeth==
''Llyfr Dafydd Evans'': ''Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor'' Cofant Dafydd Evans. Detholiad o ddyddiaduron plentyndod a chyfnod coleg Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, yn cynnws cyfnod 'Y Blew'. Gwasg Y Lolfa, ISBN: 0862436729 [http://www.ylolfa.com/cy/dangos.php?ISBN=0862436729]
 
* [http://centenary.llgc.org.uk/cy/XCM1967/book/2/1/3.html Eitemau o archif Y Blew, Llfyrgell Genedlaethol Cymru]
417,732

golygiad