Lead Belly: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
bywgraffiad byr yn y cyflwyniad
B delwedd
Llinell 1:
{{Infobox musical artist
| name = Lead Belly
| image = Leadbelly withNYWT Accordeon2.jpg
| caption = Lead Belly yn canua'ri acordiongitâr.
| background = solo_singer
| birth_name = Huddie William Ledbetter
Llinell 55:
 
=== Ei gyfnod yn y carchar ===
[[Delwedd:AngolaLAPrison.jpg|bawd|Penydfa Wladwriaethol Louisiana]]
Ym 1915, cafwyd Ledbetter yn euog o gario gwn a'i ddedfrydu i weithio â'r criw cadwyn yn Swydd Harrison. Llwyddodd i ddianc a chael gwaith yn Swydd Bowie dan y ffugenw Walter Boyd. Ym mis Ionawr 1918 cafodd ei garcharu yn yr Imperial Ffarm (a elwir bellach yn Central Unit)<ref name="Perkinson184">Perkinson, Robert (2010). </ref> yn Sugar Land, Texas, am iddo ladd un o'i berthnasau, Will Stafford, mewn ffrae dros ferch. Mae'n bosib taw yno fe'i glywodd am y tro cyntaf y gân draddodiadol "Midnight Special".<ref>Lomax, Alan, ed. </ref> Derbyniodd bardwn ym 1925 ar ôl iddo gyfansoddi cân yn ymofyn i'r Llywodraethwr Pat Morris Neff i'w ryddhau, gan iddo dreulio saith mlynedd yn y carchar, y cyfnod lleiaf posib o'i ddedfryd 7-35 mlynedd. Llwyddodd i apelio at ffydd gref Neff, ynghyd â'i ymddygiad da yn y carchar gan gynnwys adlonni'r gwarchodwyr a'i gyd-garcharorion. Roedd yn dystiolaeth o'i ddawn perswâd, gan i Neff ymgyrchu ar addewid i beidio â phardynu carcharorion, er hwnnw oedd yr unig gyfle iddynt gael eu rhyddhau'n gynnar gan nad oedd parôl yn y mwyafrif o garchardai'r De. Yn ôl Charles K. Wolfe a Kip Lornell, yn eu llyfr'' The Life and Legend of Leadbelly'' (1999), gwahoddai gwesteion i'r carchar am bicnic Sul yn aml gan Neff i glywed Ledbetter yn canu.
 
Llinell 84 ⟶ 83:
Dychwelodd Lead Belly i Ddinas Efrog Newydd ar ben ei hun yn Ionawr 1936 i geisio adfer ei yrfa. Perfformiodd dwywaith y diwrnod yn yr Apollo Theater yn [[Harlem]] yn ystod adeg y Pasg gan wisgo dillad rhesog y carcharor, i ail-greu'r ffilm newyddion ohonno sy'n adrodd hanes ei ddarganfyddiad gan Lomax.
 
<span>Cyhoeddodd cylchgrawn ''Life ''erthygl dair-tudalen dan y teitl</span> "Lead Belly: Bad Nigger Makes Good Minstrel" yn rhifyn 19 Ebrill 1937. Roedd yn cynnwys delwedd liw ohonno yn eistedd ar sachau o rawn ac yn canu'i gitâr,<ref>{{Cite book}}</ref> delwedd o Martha Promise (ei reolwr, yn ôl yr erthygl), ffotograffau o'i ddwylo yn plycio a strymian (gyda'r pennawd "''these hanshands once killed a man''"), a ffotograffau o'r Llywodraethwr Neff a Phenydfa Daleithiol Texas. Honna'r erhygl taw llais Lead Belly oedd y rheswm dros ei ddau bardwn, a chlo'r testun gyda'r geiriau "''he... may well be on the brink of a new and prosperous period''".
 
Methodd Lead Belly i ennyn brwdfrydedd cynulleidfaoedd Harlem. Yn lle hynny, cafodd llwyddiant mewn cyngherddau a budd-berfformiadau ar gyfer selogion cerddoriaeth werin a chefnogwyr yr adain chwith. Datblygodd arddull ei hun o ganu ac egluro'i stôr gerddorol yng nghyd-destun diwylliant y Deheuwyr croenddu, wedi iddo ddysgu'r hanes hwn mewn darlithoedd Lomax. Roedd yn arbennig o lwyddiannus gyda'i stoc o ganeuon gêm i blant (pan oedd yn ddyn ifanc yn Louisiana fe fu'n canu'n rheolaidd i bartïon pen-blwydd plant yn y gymuned ddu). Cafodd Lead Belly ei edmygu a'i foli'n arwr gan y nofelydd Richard Wright yng ngholofnau'r ''Daily Worker'', papur y Blaid Gomiwnyddol. Magodd y ddau ddyn gyfeillgarwch, er yr oedd Lead Belly yn ôl rhai heb farnau gwleidyddol, neu yn gefnogwr i'r [[Plaid Weriniaethol (Unol Daleithiau)|Gweriniaethwr]] cymedrol Wendell Willkie gan iddo cyfansoddi cân ar gyfer ei ymgyrch arlywyddol. Ar y llaw arall, ysgrifennodd hefyd y gân "Bourgeois Blues", a chanddi geiriau radicalaidd ac adain-chwith.
 
[[Delwedd:Huddie Ledbetter (Leadbelly) takenwith by Alan LomaxAccordeon.jpg|bawd|Ffotograff o chwith|Lead Belly ayn dynnwydcanu'r gan Alan Lomax ynacordion, ytua 1940au1942.]]
Ym 1939, roedd Lead Belly yn ôl yn y ddalfa ar gyhuddiad o ymosodiad ar ôl iddo drywanu dyn mewn cweryl ym [[Manhattan]]. Penderfynodd Alan Lomax (24 oed) i adael yr ysgol raddedig er mwyn helpu hen gyfaill ei dad, a chododd yr arian ar gyfer ffïoedd cyfeithiol Lead Belly. Cafodd ei ryddhau o'r carchar ym 1940-41. Ymddangosodd Lead Belly yn rheolaidd ar sioe radio Alan Lomax a Nicholas Ray ar CBS, ''Back Where I Come From''. Perfformiodd hefyd mewn clybiau nos gyda Josh White, a daeth yn un o hoelion wyth y sîn werin ac yn gyfaill i Sonny Terry, Brownie McGhee, Woody Guthrie, a [[Pete Seeger]], oedd i gyd yn berfformwyr ar ''Back Where I Come From''. Ar ddechrau'r 1940au fe recordiodd gydag RCA, [[Llyfrgell y Gyngres]], a Moe Asch (a sefydlodd Folkways Records) ac ym 1944 aeth i [[Califfornia|Galiffornia]] i recordio ar gyfer Capitol Records. Bu'n aros gyda gitarydd stiwdio ar Merrywood Drive yn Laurel Canyon.
 
Llinell 98 ⟶ 97:
 
== Techneg gerddorol ==
[[Delwedd:Huddie Ledbetter (Leadbelly) taken by Alan Lomax.jpg|bawd|Ffotograff o Lead Belly a dynnwyd gan Alan Lomax yn y 1940au.]]
Galwodd Lead Belly ei hunan yn "Frenin y Gitâr Ddeuddeg-Llinyn", ac er iddo ddefnyddio offerynnau eraill fel yr acordion, y ddelwedd ohonno sy'n para yw Lead Belly yn drin ei Stella anferth.<ref>{{cite web|url=http://uniqueguitar.blogspot.com/2009/11/stella-12-string-guitar.html|title=THE UNIQUE GUITAR BLOG: The Stella 12 String Guitar|first=Marcus|last=Ohara|date=November 22, 2009|publisher=}}</ref> Roedd gan y gitâr ddeuddeg-llinyn hwn raddfa hirach na'r gitâr safonol, tiwnwyr rhychog, ffurf "ysgol" tu mewn iddo i atgyfnerthu'r corff, a chynffon arddull-trapîs i wrthsefyll codi'r bont.