Lead Belly: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B delwedd
Dim crynodeb golygu
Llinell 33:
| notable_instruments = Gitâr ddeuddeg-llinyn Stella
}}
Cerddor [[cerddoriaeth werin|gwerin]] a'r [[cerddoriaeth y felan|felan]] o Americanwr oedd''' Huddie William Ledbetter''' ({{IPAc-en|ˈ|h|j|uː|d|i}}; [[20 Ionawr]] [[1889]][[6 Rhagfyr]] [[1949]]). Roedd ganddo lais cryf ac yn feistr ar ganu'r gitâr ddeuddeg-tant; roedd yn nodedig am gyflwyno sawl [[cân werin]] safonol, a'u poblogeiddio dros nos. Ond mae'n fwyaf adnabyddus dan yr enw '''Lead Belly'''. Er i'r ffurf "'''Leadbelly'''" gael ei defnyddio'n aml,<ref>Mynna'r Encyclopaedia Britannica, er enghraifft, ddefnyddio'r ffurf Leadbelly.</ref> ysgrifennodd ef ei "Lead Belly" a dyna'r sillafiad sydd ar ei garreg fedd<ref name="grave">{{Find a Grave|6121635|Huddie William "Lead Belly" Ledbetter}}</ref><ref>{{cite web|url=http://www.deltablues.net/lead3full.jpg|title=Delta Blues.net|date=|accessdate=22 Medi 2010}}</ref> a'r sillafiad a ddefnyddir gan y Lead Belly Foundation.<ref>{{cite web|url=http://www.leadbelly.org/re-homepage.html|title=Lead Belly Foundation|work=LeadBelly.org|date=|accessdate=22 Medi 2010}}</ref>
 
Treuliodd ei fywyd cynnar yn crwydro goror Louisiana a Texas gan ddysgu traddodiadau cerddorol yr [[Americanwyr Affricanaidd|Americanwyr duon]], yn enwedig y felan a chaneuon gwaith. Cafodd ei garcharu teirgwaith, y tro cyntaf am lofruddiaeth. Daeth i sylw'r byd drwy John ac Alan Lomax a fu'n gynghorwyr a rheolwyr iddo. Ni chafodd Lead Belly fawr o lwyddiant ariannol yn ystod ei fywyd, ond parhaodd i deithio a chanu ar draws yr Unol Daleithiau. Perfformiodd mewn clybiau nos Efrog Newydd yn y 1940au ac ar ddiwedd ei oes fe deithiodd i Ffrainc. Bu farw Lead Belly heb yr un ddoler.